Manylion y penderfyniad
Elections Act 2022 – Voter Identification (Voter ID) Update
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To provide an update on the voter identification (ID) process and support provided to voters who do not have an acceptable form of photo ID. It also outlines work undertaken to promote Voter ID and planned communications ahead of the Police and Crime Commissioner elections scheduled for Thursday 2 May 2024.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd fod Deddf Etholiadau 2022 wedi gwneud nifer o newidiadau i broses etholiadau Seneddol y DU ac etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd. Nid oedd hyn yn berthnasol i etholiadau Cyngor Sir y Fflint, Cynghorau Tref a Chymuned neu’r Senedd.
Roedd rhai o’r newidiadau’n cynnwys y gofyniad bod pleidleiswyr yn dangos prawf adnabod â llun wedi’i gymeradwyo yn yr orsaf bleidleisio, newidiadau i reoliadau ceisiadau pleidleisio absennol, hawliau pleidleisio dinasyddion y DU a ‘phleidleisiau am oes’ ar gyfer etholwyr tramor
Mae’r adroddiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y broses prawf adnabod i bleidleisio a’r gefnogaeth a ddarperir i bleidleiswyr nad oedd ganddynt fath derbyniol o brawf adnabod â llun. Mae hefyd yn
amlinellu’r gwaith a gwblhawyd i hyrwyddo’r Prawf Adnabod i Bleidleisio a’r trefniadau cyfathrebu arfaethedig
ar gyfer etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, ddydd Iau 2 Mai 2024.
Cafwyd trafodaeth ar y mathau o ddulliau adnabod a fyddai’n dderbyniol a dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod nifer ohonynt, a’u bod wedi’u rhestru ar wefan y Cyngor. Dywedodd hefyd y gallai pobl wneud cais am bleidlais bost neu enwebu pleidleisiwr drwy ddirprwy ar eu rhan.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bithell ar hysbysu preswylwyr, eglurodd y Prif Swyddog eu bod wedi ysgrifennu at bob aelwyd yn Sir y Fflint â’r manylion, a bod datganiadau i’r wasg wedi cael eu cyhoeddi ac yn parhau i gael eu cyhoeddi yn y cyfnod yn arwain at yr etholiadau.
Gofynnodd y Cynghorydd Bibby pa hyfforddiant fyddai’n cael ei ddarparu i’r staff sy’n gweithio mewn gorsafoedd pleidleisio. Eglurodd y Prif Swyddog fod hyfforddiant yn cael ei ddarparu i bob aelod o staff sy’n gweithio mewn gorsafoedd pleidleisio cyn bob etholiad ac y byddai hyn yn cael ei gynnwys yn yr hyfforddiant. Roedd y Cyngor hefyd yn gweithio’n agos gyda Heddlu Gogledd Cymru drwy gydol unrhyw gyfnod etholiadau.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r wybodaeth ddiweddaraf am Brawf Adnabod i Bleidleisio;
(b) Cefnogi’r gwaith a gwblhawyd a’r trefniadau cyfathrebu sydd ar y gweill i hyrwyddo’r Prawf Adnabod i Bleidleisio.
Awdur yr adroddiad: Gareth Owens
Dyddiad cyhoeddi: 18/04/2024
Dyddiad y penderfyniad: 17/10/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 17/10/2023 - Cabinet
Yn effeithiol o: 26/10/2023
Dogfennau Atodol: