Manylion y penderfyniad
Council Plan 2023-28
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To share the Council Plan 2023-28 Part 1 and Part 2 draft content for review/feedback prior to sign off at Cabinet.
Penderfyniadau:
Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) wrth yr aelodau fod Cynllun y Cyngor wedi ei ystyried eisoes gan Bwyllgorau eraill y Cyngor, yn ogystal â’r Cabinet, ac yr oedd eu barn yn amodol ar unrhyw sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor hwn. Cytunwyd ar strwythur lefel uchel Cynllun y Cyngor 2023-28 ym mis Hydref 2022, ac mae’n cynnwys saith blaenoriaeth, amcanion lles a nifer o is-flaenoriaethau.
Rhoddodd gipolwg ar y blaenoriaethau sy’n berthnasol i’r Pwyllgor hwn, sef:
· Byw’n Annibynnol
· Diogelu
· Darpariaeth Uniongyrchol i gefnogi pobl yn agosach i’w cartrefi
· Strategaeth Dementia Lleol
· Amgylchedd Lleol Glân, Diogel gyda Chysylltiadau Da
Wrth ymateb i’r Cadeirydd, dywedodd y Prif Swyddog nad oedd yn gwybod am unrhyw gynlluniau ar gyfer defnyddio safle Tri Ffordd, ac yr oedd yn ansicr a oedd penderfyniad wedi ei wneud, ond credai ei fod ym mherchnogaeth Cyngor Sir y Fflint, a chadarnhaodd y byddai Mocking Bird yn parhau i fod yn rhan o’r cynlluniau allweddol o ran gwasanaethau maethu.
Gofynnodd y Cynghorydd Mackie am eglurhad pam oedd ffigyrau targed yn is na’r ffigyrau sylfaenol yn yr adroddiad, a rhoddodd nifer o enghreifftiau. Cytunodd y Prif Swyddog y byddai’n adolygu’r ffigyrau lle’r oedd targedau’n is na’r data sylfaenol gyda’i dîm, ac y byddai’n dosbarthu’r ffigyrau i Aelodau’r Pwyllgor erbyn diwedd yr wythnos. Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Ellis, cytunodd y Prif Swyddog y dylai targedau fod yn heriol, a dywedodd eu bod wedi eu gosod ganddo ef a’i dîm, gyda barn a geisiwyd gan y Pwyllgor a chydweithwyr corfforaethol.
Cafodd yr argymhelliad yr adroddiad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorydd Ellis a’r Cynghorydd Carberry.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn cefnogi dogfennau Rhan 1 a 2 Cynllun y Cyngor 2023-28 sy’n amlinellu’r camau gweithredu, y mesurau a’r risgiau sy’n sail i flaenoriaethau, is-flaenoriaethau ac amcanion lles Cynllun y Cyngor 2023-28, yn amodol ar adolygu’r targedau a dosbarthu’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Pwyllgor.
Awdur yr adroddiad: Margaret Parry-Jones
Dyddiad cyhoeddi: 04/07/2023
Dyddiad y penderfyniad: 27/04/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 27/04/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Dogfennau Atodol:
- Council Plan 2023-28 Development (S&HC OSC) PDF 94 KB
- Appendix 1 - Council Plan 2023-28 Part 1: An overview of the Well-being Objectives, Priorities, Sub priorities and their definitions PDF 74 KB
- Appendix 2 - Council Plan 2023-28 Part 2: How achievements will be measured - Supporting Actions, Measures and Risks PDF 98 KB