Manylion y penderfyniad
Capital Programme Monitoring 2022/23 (Month 9)
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To present the Month 9 Capital Programme information for 2022/23.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson adroddiad a oedd yn crynhoi’r newidiadau a wnaed i Raglen Gyfalaf 2022/23, ers ei gosod ym mis Rhagfyr 2021 hyd at ddiwedd Mis 9 (Rhagfyr 2022), ynghyd â gwariant hyd yma a’r sefyllfa derfynol a ragwelir.
Bu gostyngiad net o £20.414 miliwn i’r Rhaglen Gyfalaf yn ystod y cyfnod, a oedd yn cynnwys:
· Gostyngiad net yn rhaglenni (£13.750 miliwn) – Cronfa’r Cyngor – £13.283 miliwn), Cyfrif Refeniw Tai (£0.467 miliwn);
· Cario ymlaen i 2023/24, yr hyn a gymeradwywyd ym mis 6, o (£4.562miliwn) a Grant ychwanegol Prydau Ysgol am Ddim (£1.767 miliwn) (Cronfa’r cyngor i gyd)
· Arbedion a nodwyd ym Mis 9 (£0.335 miliwn – Cronfa’r Cyngor)
Y gwariant gwirioneddol oedd £35.294 miliwn.
Roedd derbyniadau cyfalaf a dderbyniwyd yn nhrydydd chwarter 2022/23 ynghyd ag arbedion a nodwyd yn gyfanswm o £0.882 miliwn. Roedd hynny’n rhoi gwarged diwygiedig a ragwelir yn y Rhaglen Gyfalaf ym Mis 9 o £4.258 miliwn (o warged sefyllfa ariannu Mis 6 o £3.376 miliwn) ar gyfer Rhaglen Gyfalaf 2022/23, cyn gwireddu derbyniadau cyfalaf ychwanegol a/neu ffynonellau ariannu eraill.
Buddsoddiad yn nhrefi’r sir - mae cost deunyddiau yn cael effaith.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r adroddiad yn gyffredinol;
(b) Cymeradwyo'r addasiadau i gael eu cario ymlaen; a
(c) Chymeradwyo’r dyraniadau ychwanegol.
Awdur yr adroddiad: Chris Taylor
Dyddiad cyhoeddi: 10/08/2023
Dyddiad y penderfyniad: 23/02/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 23/02/2023 - Cabinet
Yn effeithiol o: 04/03/2023
Dogfennau Atodol: