Manylion y penderfyniad
Penodi Is-Gadeirydd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Penderfyniadau:
Gofynnwyd am enwebiadau ar gyfer Is-gadeirydd i’r Pwyllgor. Eglurwyd yn absenoldeb y Cadeirydd, y byddai’r Is-gadeirydd a benodir angen cadeirio’r cyfarfod hwn ymlaen llaw cyn i Gadeirydd gael ei benodi’n ffurfiol ar ôl y cyfarfod nesaf o’r Cyngor Sir.
Cynigiodd y Cynghorydd Richard Lloyd i enwebu’r Cynghorydd Ryan McKeown yn Is-gadeirydd, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Carolyn Preece.
Cynigiodd y Cynghorydd Glyn Banks i enwebu’r Cynghorydd Rob Davies, ac eiliwyd gan y Cynghorydd David Richardson.
Cynigiodd y Cynghorydd Mared Eastwood i enwebu’r Cynghorydd Marion Bateman, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Chrissy Gee. Wedi hynny, gofynnodd y Cynghorydd Bateman i dynnu ei henw yn ôl.
Ar ôl cynnal pleidlais, cafodd enwebiad ar gyfer penodi’r Cynghorydd Rob Davies yn Is-gadeirydd ei dderbyn.
PENDERFYNWYD:
Penodi’r Cynghorydd Rob Davies yn Is-gadeirydd y Pwyllgor.
Dyddiad cyhoeddi: 10/03/2023
Dyddiad y penderfyniad: 13/07/2022
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 13/07/2022 - Pwyllgor Trwyddedu