Manylion y penderfyniad
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Safonau
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Swyddog Monitro’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol er ystyriaeth, gan argymell cynnal ymweliadau’r Aelodau Annibynnol ym mis Gorffennaf:
· Cynhadledd Safonau Cymru Gyfan 2022 (adrodd yn ôl)
· Adolygiad Parhaus o’r Cyfansoddiad
· Rhaglen Sefydlu Cynghorwyr
· Ffurfio Fforwm Annibynnol ar gyfer Cymru gyfan
· Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol
Mewn ymateb i awgrym gan Gill Murgatroyd, dywedodd y Swyddog Monitro y byddai’n paratoi awgrymiadau ar gyfer pob cyfarfod hyd ddiwedd y flwyddyn ariannol, gan gynnwys Ymweliadau’r Aelodau Annibynnol â Chyfarfodydd y Cyngor ac Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol a pharatoi awgrymiadau ar gyfer pob cyfarfod o fis Medi ymlaen, gan gynnwys Ymweliadau’r Aelodau Annibynnol â Chyfarfodydd y Cyngor ac Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau.
Dyddiad cyhoeddi: 05/08/2022
Dyddiad y penderfyniad: 06/06/2022
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 06/06/2022 - Pwyllgor Safonau
Accompanying Documents: