Manylion y penderfyniad
Cofnodion
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Safonau
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Penderfyniadau:
Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Ionawr 2022 fel rhai cywir. Bu i’r Cynghorydd Wren ymatal gan nad oedd yn bresennol yn y cyfarfod hwnnw.
Materion yn codi
Cofnod 36
Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol – cadarnhaodd y Swyddog Monitro y dosbarthwyd y Cynllun Gweithredu.
Hyfforddiant ar y Cod Ymddygiad – cadarnhaodd y Swyddog Monitro y darperid dau o sesiynau.
Cofnod 37
Fforwm Cenedlaethol Cadeiryddion Pwyllgorau Safonau – nid oedd y Swyddog Monitro wedi derbyn ymateb gan bob Cyngor, ond roedd y rheiny a ymatebodd o blaid yr awgrym yn ôl pob golwg. Darperid y wybodaeth ddiweddaraf yn y cyfarfod nesaf.
Cofnod 39
Ymweliadau Aelodau Annibynnol â Chyfarfodydd y Cyngor – eglurodd y Swyddog Monitro y byddai’r ymweliadau hyn yn dechrau’n ddiweddarach yn y flwyddyn fel y gallai Cynghorwyr newydd sefydlu yn eu swyddogaethau newydd.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cofnodion fel rhai cywir.
Dyddiad cyhoeddi: 05/08/2022
Dyddiad y penderfyniad: 06/06/2022
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 06/06/2022 - Pwyllgor Safonau
Accompanying Documents: