Manylion y penderfyniad
Animal Welfare (Licensing of Activities Involving Animals) (Wales) Regulations 2021
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To seek approval from Members to set an
appropriate scheme of delegated authority for the Animal Welfare
(Licensing of Activities Involving Animals) (Wales) Regulations
2021.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell yr adroddiad ac eglurodd bod Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy’n ymwneud ag anifeiliaid) (Cymru) 2021 yn gofyn, yn amodol ar feini prawf cymhwyso, bod unrhyw unigolyn sydd yn dymuno gwerthu anifeiliaid mewn busnes i gael trwydded gan eu hawdurdod lleol dan y rheoliadau hynny.
Y prif newidiadau a gyflwynwyd gan y rheoliadau oedd:
· Gofyn am drwydded gweithredwyr a oedd yn gwerthu anifeiliaid fel anifeiliaid anwes yn ystod rhedeg busnes, gan gynnwys cadw anifeiliaid yn ystod busnes gyda’r bwriad o gael eu gwerthu neu ailwerthu.
· Cyflwyno safonau lles llymach i’r rheiny sydd yn gwerthu anifeiliaid fel anifeiliaid anwes.
· Cyflwyno amodau trwyddedu gorfodol i’r rheiny sydd â thrwydded i werthu anifeiliaid fel anifeiliaid anwes.
· Cyflwyno gwaharddiad ar werthiant trydydd parti masnachol o g?n a chathod bach.
Er mwyn ymdrin â cheisiadau a materion lles anifeiliaid, cynigiwyd bod pwerau o fewn y ddeddfwriaeth yn cael eu dirprwyo i’r Rheolwr Tîm- Trwyddedu a Rheoli Plâu a’r Rheolwr Gwasanaeth Diogelu Busnes a’r Gymuned.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod pwerau dirprwyedig yn cael eu rhoi i’r Rheolwr Tîm - Trwyddedu a Rheoli Plâu a’r Rheolwr Gwasanaeth Diogelu Busnes a’r Gymuned ar gyfer y pwerau canlynol o fewn Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy’n ymwneud ag Anifeiliaid).
· P?er i roi trwydded
· P?er i wrthod trwydded
· P?er i adnewyddu trwydded
· P?er i amrywio trwydded
· P?er i amrywio trwydded ar unwaith
· P?er i weithredu amodau
· P?er i atal trwydded
· P?er i atal trwydded ar unwaith
· P?er i adfer trwydded wedi’i gwahardd
· P?er i ddiddymu trwydded
· P?er i benodi arolygwyr
(b) Bod Cyfansoddiad Cyngor Sir y Fflint yn cael ei ddiwygio i adlewyrchu’r newid; a
(c) Bod unrhyw newidiadau i’r ddirprwyo pwerau o ran y rheoliadau hynny yn cael eu dirprwyo i’r Prif Swyddog (Cynllunio, Yr Amgylchedd a’r Economi) mewn trafodaeth gyda’r Aelod Cabinet Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd.
Awdur yr adroddiad: Gemma Potter
Dyddiad cyhoeddi: 15/07/2022
Dyddiad y penderfyniad: 15/03/2022
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 15/03/2022 - Cabinet
Yn effeithiol o: 24/03/2022
Dogfennau Atodol: