Manylion y penderfyniad

Capital Programme 2022/23 – 2024/25

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir y Fflint

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To present the Capital Programme 2022/23 – 2024/25 for approval

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Prif Gyfrifydd yr adroddiad a oedd yn cyhoeddi’r Rhaglen Gyfalaf arfaethedig ar gyfer cyfnod 2022/23–2024/25 i’w chymeradwyo, gan roi cyflwyniad PowerPoint.

 

Roedd Rhaglen Gyfalaf y Cyngor yn cynnwys buddsoddiadau mewn asedau ar gyfer y tymor hir er mwyn gallu darparu gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel sy’n rhoi gwerth am arian.  Roedd yr asedau’n cynnwys adeiladau (fel ysgolion, cartrefi gofal a chanolfannau dydd), isadeiledd (fel priffyrdd, rhwydweithiau TG a gorsafoedd trosglwyddo gwastraff), ac asedau nad ydynt yn perthyn i'r Cyngor (fel gwaith i wella ac addasu cartrefi'r sector preifat).  Roedd y buddsoddiadau cyfalaf arfaethedig oedd wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad yn cyd-fynd yn agos â chynlluniau gwasanaethau a Chynllun y Cyngor.

 

Roedd gan y Cyngor adnoddau cyfalaf cyfyngedig gan Lywodraeth Cymru (LlC) i gefnogi blaenoriaethau, anghenion ac atebolrwydd y Cyngor.  Fodd bynnag, roedd ganddo bwerau i ariannu cynlluniau cyfalaf drwy fenthyg – roedd hyn yn gynllun dros dro, ac roedd cost ac ad-daliad unrhyw fenthyciad yn cael ei godi ar gyllideb refeniw’r Cyngor.  Ystyriwyd cynlluniau a oedd yn cael eu hariannu drwy fenthyca yn ofalus oherwydd yr effeithiau hirdymor ar gyllideb refeniw’r Cyngor.

 

Rhannwyd adroddiad Rhaglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor yn dair adran:

 

1.    Statudol / Rheoleiddiol – dyraniadau i fodloni gwaith rheoleiddiol a statudol.

2.    Asedau wedi’u Cadw – dyraniadau i ariannu gwaith isadeiledd sy’n angenrheidiol i sicrhau parhad gwasanaeth a busnes.

3.    Asedau wedi’u Cadw – dyraniadau i ariannu gwaith sy’n angenrheidiol i sicrhau parhad gwasanaeth a busnes.

 

Darparwyd manylion pob tabl o fewn yr adroddiad, a oedd yn rhan o’r cyflwyniad, ac yn cael eu cefnogi gan esboniadau yn yr adroddiad ar bob tabl.

 

Darparwyd gwybodaeth hefyd am gynlluniau posib’ yn y dyfodol, a oedd hefyd wedi’u manylu yn yr adroddiad.

 

Roedd yr adroddiad wedi’i gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.

 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Ian Roberts a’u heilio gan y Cynghorydd Paul Johnson.

 

Croesawai’r Cynghorydd Roberts yr adroddiad a dywedodd ei bod yn bleser argymell y rhaglen gyfalaf arfaethedig i’w chymeradwyo, gan ddweud ei bod yn rhaglen gyfalaf gyfunol ar gyfer y Cyngor cyfan.  Roedd y rhaglen yn uchelgeisiol ac roedd yn dangos, fel Cyngor, fod ymrwymiad i ofalu am bobl diamddiffyn.  Croesawai’r cynlluniau a amlinellwyd ar gyfer ysgolion, ynghyd â’r ysgol newydd yn lle Ysgol Croes Atti, sef yr ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg gyntaf i gael ei hadeiladu yn Sir y Fflint fel strwythur carbon niwtral.  Gwnaeth sylw am yr ymrwymiad i Theatr Clwyd a’r prosiect archif newydd, a chroesawai’r gwariant ar Orsaf Trosglwyddo Gwastraff Standard Yard, a fyddai’n sicrhau y gallai’r Cyngor gyrraedd y targed ailgylchu o 70% a osodwyd gan LlC.  Gofynnodd am gefnogaeth gan Aelodau ar draws y siambr ar gyfer yr ystod helaeth o ymrwymiadau oedd wedi’u cynllunio ar gyfer y sir gyfan.

 

Roedd y Cynghorydd Peers hefyd yn croesawu’r adroddiad, a oedd yn dangos ymrwymiad i’r sir gyfan.  Yngl?n â gwaith ar adeiladau ysgolion, gofynnodd sut y byddai’r Cyngor yn mynd i’r afael â’r llwyth o waith uwchraddio toiledau a oedd i’w wneud, ac a oedd Estyn yn fodlon â’r sefyllfa.  Eglurodd y Prif Weithredwr, ynghyd â’r rhaglen o waith uwchraddio toiledau, fod gwaith moderneiddio hefyd yn cael ei wneud dan raglenni adnewyddu, yn ogystal ag ysgolion yn cyfrannu at waith uwchraddio o’u cyllidebau eu hunain.  Roedd y llwyth o waith a oedd i’w wneud yn aml yn cael ei amlygu fel mater Iechyd a Diogelwch yn arolygon Estyn.

 

Ynghlwm â’r cyfleuster archif ar y cyd, gofynnodd y Cynghorydd Peers a allai’r adeilad archif presennol ym Mhenarlâg gael ei werthu fel derbyniad cyfalaf.  Eglurodd y Prif Weithredwr fod nifer o astudiaethau ar fynd i ymchwilio a allai’r adeilad presennol gael ei ddefnyddio ar ddiben arall yn y dyfodol.  Ychwanegodd, pe bai unrhyw adeiladau’n cael eu gwerthu, y byddai’r derbyniad cyfalaf yn mynd i’r pot corfforaethol ar gyfer y rhaglen gyfalaf ehangach.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Peers, mewn perthynas â’r Adolygiad o Ystadau Diwydiannol, a oedd ardrethi busnes yn parhau i gael eu talu ar adeilad a oedd wedi bod ar gael yn flaenorol i’w rentu, ond a oedd wedi mynd yn anaddas i’w ddefnyddio ers hynny.  Eglurodd y Prif Weithredwr y byddai adeiladau anaddas yn cael eu defnyddio at ddibenion eraill, lle bo modd, ond roedd angen deall y farchnad ac yna defnyddio’r strategaeth fwyaf priodol.  Lle bo hynny’n briodol, byddai adeiladau anaddas yn cael eu dymchwel pe na bai modd eu defnyddio at ddiben arall.

 

Diolchodd y Cynghorydd Richard Jones i’r Prif Weithredwr a chydweithwyr cyllid am y symudiad o £1.2 miliwn o asedau a gedwir i’r adran statudol / reoliadol – roedd cais am hyn wedi’i wneud yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Sharps ar gampws Neuadd y Sir yn yr Wyddgrug, eglurodd y Prif Weithredwr fod y broses gynllunio feistr wedi cychwyn ond heb ei gorffen eto.  Pan oedd y gwaith hwnnw wedi’i gwblhau, byddai gwybodaeth yn cael ei rhannu gyda’r holl Aelodau.

 

Wrth grynhoi, cadarnhaodd y Cynghorydd Roberts y byddai trafodaeth lawn gyda’r holl Aelodau am gampws Neuadd y Sir.  Diolchodd i LlC am faint o adnoddau ariannol roeddent wedi’u rhoi’n uniongyrchol yng nghyllidebau ysgolion, yn benodol ar gyfer gwelliannau i ysgolion, ac roedd yn ddiolchgar am hynny.  Mewn perthynas â’r cyfleuster archif presennol ym Mhenarlâg, eglurodd fod trafodaethau wedi’u cynnal gyda’r Aelod lleol a’r cynlluniau oedd ailddatblygu a gwella’r adeilad presennol.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r dyraniadau a’r cynlluniau yn Nhabl 3 ar gyfer yr adrannau Statudol/Rheoliadol ac Asedau a Gedwir yn Rhaglen Gyfalaf Cronfa’r Cyngor 2022/23–2024/25;

 

(b)       Cymeradwyo’r cynlluniau yn Nhabl 4 ar gyfer adran Fuddsoddi Rhaglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor 2022/23–2024/2;

 

(c)        Nodi bod y diffyg mewn cyllid i ariannu cynlluniau yn 2022/23, 2023/24 a 2024/25 yn Nhabl 5 ar y pwynt hwn yn y broses gymeradwyo’n caniatáu hyblygrwydd.  Bydd opsiynau’n cynnwys cyfuniad o dderbyniadau cyfalaf yn y dyfodol, grantiau eraill (os ydynt ar gael), benthyca darbodus neu ailbennu camau cynlluniau’n cael eu hystyried yn ystod 2022/23, ac yn cael eu cynnwys mewn adroddiadau ar y Rhaglen Gyfalaf yn y dyfodol; a

 

(d)       Chymeradwyo’r cynlluniau sydd wedi’u cynnwys yn Nhabl 6 ar gyfer yr adran sy’n cael ei hariannu’n benodol yn Rhaglen Gyfalaf Cronfa’r Cyngor, a fydd yn cael ei hariannu’n rhannol trwy fenthyca.

Awdur yr adroddiad: Chris Taylor

Dyddiad cyhoeddi: 05/08/2022

Dyddiad y penderfyniad: 07/12/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 07/12/2021 - Cyngor Sir y Fflint

Accompanying Documents: