Manylion y penderfyniad

Housing Rent Income - Audit Wales

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Oes

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes

Diben:

To acknowledge the Audit Wales Report and note the recommendations on the collection of additional data and performance reporting.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad a oedd yn rhoi’r wybodaeth weithredol ddiweddaraf yn dilyn cyhoeddi adroddiad diweddar gan Archwilio Cymru ynghylch Incwm Rhent Tai.  Roedd adolygiad Archwilio Cymru wedi cydnabod y mesurau rhagweithiol mae’r Cyngor eisoes wedi eu cymryd i gefnogi tenantiaid a sefydlogi casgliadau rhent yn ystod cyfnod o newid nas gwelwyd ei debyg o’r blaen, yn enwedig wrth gyflwyno’r Credyd Cynhwysol ac effeithiau diweddar pandemig COVID-19.

 

            Esboniodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) fod yr adolygiad wedi dod i’r casgliad fod y Cyngor wedi, erbyn Mawrth 2020, llwyddo i atal y cynnydd mewn ôl-ddyledion rhent gan denantiaid y Cyngor. I grynhoi, amlinellwyd dau argymhelliad yn adroddiad Archwilio Cymru i gasglu mesuryddion perfformiad ychwanegol er mwyn cael dealltwriaeth well am berfformiad ôl-ddyledion incwm a rhent cyffredinol ac adeiladu ar y gwelliannau a wnaed eisoes.  Dyma’r ddau ddangosydd ychwanegol sy’n cael eu cynnig:

 

·         Cyfanswm y rhent sy’n cael ei gasglu yn ystod y flwyddyn gan y tenantiaid blaenorol a’r tenantiaid presennol; a’r swm a ddiddymwyd yn ystod y flwyddyn ariannol o ran rhent na chafodd ei dalu; a

·         Chasglu setiau data mwy cynhwysfawr yn cynnwys cryfhau trefniadau integredig i ymgysylltu â thenantiaid er mwyn deall anghenion a phrofiadau tenantiaid yn well a llywio’r modd y caiff gwasanaethau tai eu darparu yn y dyfodol

 

Parhaodd y Gwasanaeth Tai i ddatblygu strategaethau i gynyddu casgliadau ac o ran casglu ôl-ddyledion tenantiaid blaenorol, roedd y gwasanaeth wedi defnyddio modiwl meddalwedd ychwanegol yn ddiweddar, wedi’i dargedu’n benodol at ôl-ddyledion tenantiaid blaenorol. Roedd y meddalwedd yn defnyddio technolegau dadansoddol a rhagfynegol sydd eisoes yn bodoli gan ddefnyddio datrysiad Mobysoft ‘Rent Sense’ er mwyn gallu dod o hyd yn gyflym i denantiaid blaenorol sydd mewn perygl o beidio â gwneud ad-daliadau’n brydlon. Byddai defnyddio’r meddalwedd newydd, ynghyd â dulliau adrodd gwell, yn galluogi swyddogion i wneud rhagor o welliannau i’r broses gasglu yn ogystal â darparu gwybodaeth adrodd ychwanegol i’r Cabinet ac i’r Pwyllgor Craffu ynghylch ôl-ddyledion tenantiaid blaenorol, yn ogystal â gwybodaeth weledol well am lefelau diddymu.

 

Yn ogystal â hynny, ac mewn perthynas â chasglu data i gael adborth gan denantiaid ac i ddeall anghenion tenantiaid yn well, roedd y gwasanaeth tai’n bwriadu anfon holiadur manwl i ofyn am adborth gan gwsmeriaid a fyddai’n helpu ac yn cefnogi modelau darparu gwasanaethau yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Mabwysiadu’r cynigion er mwyn gwella.

Awdur yr adroddiad: Lynne McAlpine

Dyddiad cyhoeddi: 13/01/2022

Dyddiad y penderfyniad: 19/10/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 19/10/2021 - Cabinet

Yn effeithiol o: 28/10/2021

Dogfennau Atodol: