Manylion y penderfyniad

Directors Annual Report

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To consider the draft report prior to consideration at Cabinet.

Penderfyniadau:

Cyn cyflwyno’r adroddiad rhoddodd y Prif Swyddog (Gwas. Cymdeithasol) adborth llafar anffurfiol ar ganlyniad adolygiad sicrwydd Arolygiaeth Comisiynu Cymru a gynhaliwyd yn yr wythnos yn dechrau 19 Ebrill. Dywedodd fod yr adborth a gafwyd gan y Comisiwn hyd yma wedi bod yn gadarnhaol ac yn adlewyrchu sawl elfen o arfer da iawn yn Sir y Fflint. Teimlai’r Arolygiaeth yn fodlon fod pobl fregus (plant ac oedolion) a’u teuluoedd yn cael cefnogaeth dda yn Sir y Fflint ac yn ystod Covid, rhoddwyd lefel dda o gefnogaeth yn gorfforaethol ac o fewn y Gwasanaethau Cymdeithasol. Roedd rhai llefydd i wella wedi’u nodi ac roedd cynllun gweithredu wedi’i gychwyn mewn ymateb. Eglurodd y Prif Swyddog y byddai adroddiad cynhwysfawr ar ganfyddiadau’r Arolygiad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor maes o law.

 

Wrth gyflwyno’r adroddiad rhoddodd y Prif Swyddog wybodaeth gefndir a dywedodd fod drafft o Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol 2020/21 a Blaenoriaethau 2021/22 ynghlwm fel Atodiad 2. Talodd y Prif Swyddog deyrnged i waith a chyfraniad y gweithwyr allweddol ar bob lefel wrth helpu pobl fregus drwy bandemig Covid-19 a soniodd am arloesedd, llwyddiant, ac ansawdd y ddarpariaeth gwasanaethau cymdeithasol mewn nifer o feysydd.

 

Wrth gyflwyno’r adroddiad, tynnodd y Rheolwr Comisiynu sylw at y blaenoriaethau gwelliant a nodwyd ar gyfer 2021/22 sydd yn adran 1.11 o’r adroddiad eglurhaol. Ategodd y sylwadau a fynegwyd gan y Prif Swyddog o ran heriau’r pandemig a dywedodd, er hynny, fod prosiectau a chynlluniau wedi parhau o ddifri er gwaetha’r cyfyngiadau ac roedd ffyrdd arloesol o ddarparu gwasanaethau wedi cael eu datblygu.

 

Llongyfarchodd y Cadeirydd y Prif Swyddog a’i dîm, a phawb oedd yn rhan o ganlyniad adolygiad yr Arolygiaeth. Llongyfarchodd y Swyddogion hefyd ar safon uchel yr adroddiad ar Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd ar effaith Covid-19 ar ddarparu micro-ofal, eglurodd y Rheolwr Comisiynu, oherwydd y pandemig bu mwy o ddiddordeb ac o ganlyniad i ymgyrchoedd ar y cyfryngau cymdeithasol a gwybodaeth ar-lein, roedd 19 o gyrff micro-ofal wedi’u sefydlu erbyn hyn a oedd yn cynnig opsiwn arall yn y ddarpariaeth gofal cymdeithasol.

 

Siaradodd yr aelodau i gefnogi’r adroddiad a llongyfarchwyd y Prif Swyddog a’i weithlu ar ddarpariaeth arloesol o safon uchel y gwasanaethau cymdeithasol yn Sir y Fflint. Mynegodd y Cynghorydd Paul Cunningham ei ddiolch i’r Cyngor am gymorth parhaus Double-Click.

 

Tynnodd y Cynghorydd Dave Mackie sylw at nifer o wallau teipograffyddol ar yr adroddiad drafft. Gofynnodd hefyd am roi ystyriaeth i fformatio’r adroddiad fel ei fod yn hawdd ei gyrchu ar ddyfeisiau electronig. 

 

Cynigiwyd derbyn yr argymhellion yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Mike Lowe ac eiliwyd gan y Cynghorydd Jean Davies.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Fod yr Adroddiad Blynyddol drafft yn cael ei nodi; a

 

(b)       Bod yr Adroddiad Blynyddol terfynol yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 1 Gorffennaf, 2021.

 

Awdur yr adroddiad: Neil Ayling

Dyddiad cyhoeddi: 21/04/2022

Dyddiad y penderfyniad: 27/05/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 27/05/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Accompanying Documents: