Manylion y penderfyniad
Reports from Independent Member visits to County Council meetings
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Safonau
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Swyddog Monitro yr eitem a oedd yn rhoi cyfle i aelodau annibynnol y Pwyllgor Safonau roi adborth o’r cyfarfodydd yr oeddent wedi’u mynychu a’u harsylwi yn y Cyngor.
Mynychwyd y cyfarfodydd canlynol:
· Y Cabinet – 19.01.21 (Julia Hughes)
· Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Y Gymuned, Tai ac Asedau - 20.01.21 (Rob Dewey)
· Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd - 21.01.21 (Phillipa Earlam)
· Cyngor Sir y Fflint - 26.01.21 (Julia Hughes)
· Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a’r Economi - 09.02.21 (Rob Dewey)
· Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol - 11.02.21 (Mark Morgan)
Crynhodd y Swyddog Monitro’r negeseuon cyffredin o’r adborth fel a ganlyn:
· Diffyg gwahaniaethu rhwng Aelodau a swyddogion;
· Esboniadau’n cael eu rhoi pan oedd jargon yn cael ei ddefnyddio;
· Roedd angen sicrhau bod datganiadau o gysylltiad yn glir p’un ai oeddent yn bersonol, neu’n bersonol ac yn rhagfarnu;
· Dylid esbonio bod areithiau’n cael eu hamseru;
· Roedd cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn dda.
Awgrymodd fod rhestr yn cael ei llunio gyda meysydd arfer da a lle gallai pethau gael eu gwella er eglurder.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi ymweliadau’r aelodau annibynnol i gyfarfodydd y Cyngor Sir; a
(b) Llunio rhestr o feysydd o arfer da a lle gallai pethau gael eu gwella er eglurder.
Dyddiad cyhoeddi: 15/07/2022
Dyddiad y penderfyniad: 01/03/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 01/03/2021 - Pwyllgor Safonau