Manylion y penderfyniad
Internal Audit Progress Report
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Archwilio
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Diben:
To present to the Committee an update on the progress of the Internal Audit Department.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol yr adroddiad rheolaidd yn dangos cynnydd yn erbyn y Cynllun, adroddiadau terfynol a gyhoeddwyd, olrhain camau gweithredu, dangosyddion perfformiad ac ymchwiliadau presennol.
Ers yr adroddiad diwethaf, ni chafwyd unrhyw adroddiadau Coch (sicrwydd cyfyngedig) a dim ond un adroddiad Melyn/Coch (rhywfaint o sicrwydd) yn ymwneud â Defnyddio System Cynllunio Cydweithredol Hunan Wasanaeth. Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf hefyd ar symudiadau o fewn y tîm Archwilio Mewnol fel y nodwyd yn yr adroddiad.
Cododd Allan Rainford bryderon ynghylch nifer y camau gweithredu hwyr. Derbyniodd esboniadau’r swyddogion am yr effaith o’r sefyllfa frys, a’r sicrwydd bod y sefyllfa’n cael ei monitro’n agos ac y byddai’n cael ei chodi ymhellach pe bai angen.
Ymatebodd y Prif Weithredwr i faterion ehangach ar Gynllunio a godwyd gan y Cynghorydd Heesom a dywedodd y byddai'r adroddiad Trosolwg a Chraffu ar Orfodaeth Cynllunio sydd ar y gweill yn cael ei dosbarthu i'r Pwyllgor.
Gofynnodd Sally Ellis am eglurhad ar y sefyllfa bresennol gyda chronfeydd wrth gefn ysgolion. Cytunodd y Rheolwr Archwilio Mewnol i rannu diweddariad ar ôl i'r asesiadau gael eu cwblhau.
O ran balansau ysgolion, siaradodd y Prif Weithredwr am yr argymhelliad ar gyfer cyllideb 2021/22 i ddarparu codiad sylweddol i gyllidebau ysgolion uwchradd i helpu i wella sefyllfa ddiffygiol ysgolion.
Wrth dynnu sylw at bwysigrwydd cynnal y cwricwlwm, siaradodd y Cynghorydd Roberts am y ffactorau sy'n effeithio ar falansau ysgolion a rhoddodd sicrwydd bod cydweithwyr Addysg yn gweithio'n agos gydag ysgolion ar falansau diffygiol.
Cynigiwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Johnson a'i eilio gan Allan Rainford.
PENDERFYNWYD:
Derbyn yr adroddiad.
Awdur yr adroddiad: Lisa Brownbill
Dyddiad cyhoeddi: 08/04/2021
Dyddiad y penderfyniad: 27/01/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 27/01/2021 - Pwyllgor Archwilio
Accompanying Documents: