Manylion y penderfyniad
Eitemau i'w gohirio
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Penderfyniadau:
Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) fod yr eitem ganlynol wedi’i hargymell i’w gohirio er mwyn galluogi swyddogion cynllunio i ystyried copi o’r farn gyfreithiol a gyflwynwyd gan wrthwynebwyr i’r cais a oedd wedi’i ddosbarthu’n ddiweddar. Pe bai’r Pwyllgor yn cytuno i ohirio’r eitem, byddai’n cael ei chyflwyno mewn cyfarfod o’r Pwyllgor yn y dyfodol.
Eitem 6.9 (061489) ar y Rhaglen - Cais llawn - newid defnydd ôl-weithredol ar gyfer gweithredu safle fel defnydd B1, B2 a B8 am gyfnod dros dro o 18 mis, gan gynnwys ailgylchu a storio gwastraff carpedi nad yw’n beryglus a chadw’r adeiladau presennol ar gyfer swyddfeydd a gweithgynhyrchu gan gynnwys storio ategol yn 300 Recycling, Ystâd Ddiwydiannol Deva, Sandycroft.
Cynigiodd y Cynghorydd Richard Lloyd gymeradwyo gohirio’r eitem ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Kevin Hughes. Pan gynhaliwyd y bleidlais cafodd yr eitem ei gohirio.
PENDERFYNWYD:
Bod eitem rhif 6.9 (061489) ar y rhaglen yn cael ei gohirio i gyfarfod y Pwyllgor yn y dyfodol am y rheswm a nodwyd.
Dyddiad cyhoeddi: 14/01/2021
Dyddiad y penderfyniad: 28/10/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 28/10/2020 - Pwyllgor Cynllunio