Manylion y penderfyniad

Emergency Situation Briefing (Verbal)

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Statws y Penderfyniad: Information Only

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

Fe eglurodd y Prif Weithredwr fod y sefyllfa bresennol yn un ansefydlog. Byddai ef a’i Brif Swyddogion yn sicrhau bod Aelodau yn cael diweddariad byr ar lafar ar ddechrau cyfarfodydd. Dywedodd hefyd y gallai fod yn angenrheidiol ailgyflwyno’r briff ar y sefyllfa, a roddwyd i aelodau yn ystod chwe mis cyntaf yr argyfwng.

 

Wrth ymateb i gwestiynau a ofynnwyd gan y Cynghorydd McGuill, esboniodd y Prif Weithredwr eu bod yn disgwyl 1,000 uned yr wythnos o frechlyn rhif un yn ystod y pythefnos cyntaf, gyda niferoedd sylweddol yn dilyn hynny. Roedd dau frechlyn arall yn dynn wrth ei sodlau, yn disgwyl i gael eu cymeradwyo a’u trwyddedu. Nid yw profi am wrthgyrff yn berthnasol ar hyn o bryd a bydd pawb yn cael cynnig brechlyn yn eu tro.

 

Holodd y Cynghorydd Cunningham sut byddai’r brechlynnau’n cael eu storio ac a fyddai agor a chau oergelloedd yn effeithio arnyn nhw. Esboniodd y Prif Weithredwr fod hyn oll dan reolaeth ac mai’r prif reswm dros roi’r brechlyn mewn ysbytai yn unig ar hyn o bryd oedd yr angen i gael cyfleusterau a allai gadw’r brechlyn ar dymheredd isel. Rhyw dro’r flwyddyn nesaf bydd y brechlynnau mwy hylaw yn cael eu rhoi gan Feddygon Teulu a Fferyllfeydd Cymunedol.

 

Wrth ymateb i gwestiwn a ofynnwyd gan y Cynghorydd Lowe, cadarnhaodd y Prif Weithredwr y gallai pobl o ardaloedd Haen 1 a Haen 2 deithio’n rhydd i mewn i Gymru, ac i’r gwrthwyneb, ond ni ddylai pobl symud allan o ardaloedd Haen 3.

 

Holodd y Cynghorydd Ellis ynghylch symud cleifion o’r Ysbyty i Gartrefi gofal a dywedodd y Prif Weithredwr nad oedd unrhyw dystiolaeth fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr nac unrhyw Fwrdd Iechyd arall wedi torri’r rheolau rhyddhau cleifion ac na ddylai unrhyw un gael ei ryddhau i sefydliad gofal heb brawf negyddol addas, a chadarnhawyd hyn gan y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol).

 

Cadarnhaodd yr Uwch-reolwr – Gwasanaethau Integredig ac Arweinydd Oedolion y cafwyd achosion o’r haint mewn Cartref Gofal yn Nhreffynnon a’i fod wedi ei reoli’n dda a bod disgwyl iddo fod ar agor erbyn diwedd yr wythnos nesaf.

 

O’r tri brechlyn, holodd y Cynghorydd Gladys Healey pa un fyddai Cymru yn ei dderbyn, gan wybod mai’r brechlyn Pfizer yw’r drutaf. Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai’r Deyrnas Unedig yn cael yr holl frechlynnau a oedd wedi eu caffael ac y byddai cyflenwad digonol ohonyn nhw ar gael.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r diweddariad ar lafar.

 

Dyddiad cyhoeddi: 23/02/2021

Dyddiad y penderfyniad: 03/12/2020

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 03/12/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd