Manylion y penderfyniad
Appointment of the Cabinet by the Leader of the Council
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Penderfyniadau:
Diolchodd y Cynghorydd Ian Roberts i’r Aelodau am ei ethol yn Arweinydd y Cyngor ar gyfer gweddill blwyddyn y cyngor a dywedodd mai anrhydedd oedd derbyn y swydd. Siaradodd am y sefyllfa heriol a phrysur newidiol o ran pandemig y Coronafeirws ac am y gwytnwch a’r amynedd a ddangoswyd gan breswylwyr Sir y Fflint yn ystod y cyfnod digynsail diweddar a lleihad gwasanaethau. Diolchodd i holl weithwyr Sir y Fflint a oedd wedi cynnal darpariaeth gwasanaethau hanfodol gan y Cyngor yn ystod y pandemig, gan restru Gwasanaethau Stryd, Gwasanaethau Cymdeithasol, Addysg a Thechnoleg, Gwybodaeth a Chyfathrebu fel enghreifftiau. Cyfeiriodd at y penderfyniadau anodd a oedd rhaid eu gwneud yn unol â’r wybodaeth a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gyflawni’r canlyniadau gorau ar gyfer Sir y Fflint.
Talodd y Cynghorydd Roberts deyrnged i’r Prif Weithredwr, y Prif Swyddogion a’u timau am eu perfformiad cadarn drwy gydol yr argyfwng. Siaradodd am yr angen i barhau i gymryd gofal a phwyll i atal ail don o’r pandemig yn y dyfodol agos.
Yn unol â’r Cyfansoddiad, nododd y Cynghorydd Roberts ei ddewis o Gynghorwyr a fyddai’n gwasanaethu ar y Cabinet.
Diolchodd y Cynghorydd Roberts i Aelodau’r Cabinet am eu gwaith a’u cefnogaeth. Diolchodd hefyd i’r Cadeirydd, i’r Is-Gadeirydd a’r Arweinwyr Gr?p am eu hymgysylltiad i gynorthwyo’r Cyngor gyda’r broses gwneud penderfyniadau.
PENDERFYNWYD:
Bod y dewis o Gynghorwyr i wasanaethu ar y Cabinet, a’u portffolios a fanylir arnynt isod, yn cael eu nodi.
Aelod Cabinet |
Portffolio |
Ian Roberts |
Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet Addysg |
Carolyn Thomas |
Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chefn Gwlad |
Glyn Banks |
Aelod Cabinet Cyllid |
Chris Bithell |
Aelod Cabinet Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd |
Derek Butler |
Aelod Cabinet Datblygu Economaidd |
Dave Hughes |
Aelod Cabinet Tai |
Christine Jones |
Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol |
Billy Mullin |
Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac Asedau |
Dyddiad cyhoeddi: 05/01/2021
Dyddiad y penderfyniad: 09/09/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 09/09/2020 - Cyngor Sir y Fflint