Manylion y penderfyniad
Election of the Leader of the Council
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Penderfyniadau:
Cynigodd y Cynghorydd Michelle Perfect y dylid penodi’r Cynghorydd Ian Roberts yn Arweinydd y Cyngor ar gyfer gweddill blwyddyn y Cyngor 2020/21, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Kevin Hughes. Siaradodd y Cynghorydd Hughes o blaid y cynnig gan dalu teyrnged i’r Cynghorydd Roberts a’i rinweddau personol a’i gyflawniadau yn ystod ei gyfnod yn y swydd. Siaradodd hefyd am ei waith diwyro yn ystod pandemig y Coronafeirws i sicrhau’r canlyniad gorau posibl wrth ddarparu gwasanaethau i holl breswylwyr Sir y Fflint. Ni chafwyd enwebiadau eraill.Talodd yr Aelodau deyrngedau pellach i’r Cynghorydd Roberts o ran ei berfformiad a’i broffesiynoldeb rhagorol fel Aelod o’r Cyngor.
Pan gafwyd pleidlais, cymeradwywyd y cynnig.
PENDERFYNWYD:
Penodi’r Cynghorydd Ian Roberts yn Arweinydd y Cyngor ar gyfer gweddill blwyddyn y Cyngor 2020/21.
Dyddiad cyhoeddi: 05/01/2021
Dyddiad y penderfyniad: 09/09/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 09/09/2020 - Cyngor Sir y Fflint