Manylion y penderfyniad
Chair and Vice-Chair of the Council
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Penderfyniadau:
Hysbysodd y Cadeirydd fod Llywodraeth Cymru, yn sgil yr ymateb i’r coronafeirws, wedi pasio deddfwriaeth frys yn galluogi Cynghorau i ohirio cyfarfodydd blynyddol. I gydnabod yr anawsterau wrth gynnal cyfarfodydd o bell, bu i’r ddeddfwriaeth honno hefyd ganiatáu i Gynghorau ymestyn cyfnodau deiliaid swyddi i fis Mai 2021.
Cynigiwyd, gyda’u cytundeb, bod y Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd presennol yn parhau yn eu swyddi tan fis Mai 2021 pan fydd hi’n bosibl cynnal cyfarfod blynyddol gyda’r lefel briodol o seremoni.
Bachodd y Cadeirydd ar y cyfle hwn i ddiolch i’r Is-Gadeirydd am ei gefnogaeth a’i gydweithrediad o ran y trefniadau arfaethedig ar gyfer gweddill blwyddyn y Cyngor.
Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at yr ymgynghoriad a gynhaliwyd gydag Arweinwyr Gr?p a dywedodd eu bod wedi dod i gytundeb, gyda chefnogaeth y Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd, i dderbyn y trefniant arfaethedig.
PENDERFYNWYD:
Bod y Cynghorwyr Marion Bateman a Joe Johnson yn parhau yn eu swyddi fel Cadeirydd ac Is-Gadeirydd tan fis Mai 2021.
Dyddiad cyhoeddi: 05/01/2021
Dyddiad y penderfyniad: 09/09/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 09/09/2020 - Cyngor Sir y Fflint