Manylion y penderfyniad
Economic and Market Update and Investment Strategy and Manager Summary
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Penderfyniadau:
Rhoddodd Mr Harkin ddiweddariad ar y coronafeirws a goblygiadau hyn yng nghyd-destun y gronfa bensiynau.Dywedodd bod y marchnadoedd wedi gweld cwymp sylweddol yn Tsieina a’r marchnadoedd oedd yn codi i ddechrau, fodd bynnag mae’r marchnadoedd wedi adfer ers hynny.Roedd yr effaith uniongyrchol ar y marchnadoedd ecwiti a bond yn destun barn.Dywedodd pe byddai cwymp sylweddol, gwirioneddol yn y marchnadoedd, roedd gan y Gronfa amddiffyniad drwy’r fframwaith rheoli risg ac arian.Pwysleisiodd Mr Harkin y cwestiwn mwyaf oedd os oes effaith economaidd mawr i ddilyn h.y. sawl gwlad sy’n dibynnu ar Tsieina i adeiladu a phrynu pethau ar eu cyfer o ran gweithgynhyrchu, er enghraifft Apple, ac felly gall fod effaith ehangach megis ar farchnad stoc yr Unol Daleithiau.
Ychwanegodd bod gwerth y Gronfa dros £2 biliwn ar ddiwedd mis Rhagfyr.Mae’r Gronfa yn mynd trwy newidiadau yn y strategaeth fuddsoddi ac yn eu gweithredu ac mewn sefyllfa iach er gwaethaf cyfnewidioldeb y farchnad.
Nodwyd yr adroddiad ac ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau pellach.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor wedi trafod a gwneud sylwadau ar y diweddariad ar y Farchnad a’r Economi ar gyfer y chwarter a ddaeth i ben 31 Rhagfyr 2019, sy’n gosod y llwyfan ar gyfer y Strategaeth Fuddsoddi a’r Crynodeb Perfformiad Rheolwyr.
(b) Bod y Pwyllgor wedi trafod a gwneud sylwadau ar y Strategaeth Fuddsoddi a’r Crynodeb Perfformiad Rheolwr ar gyfer y chwarter a ddaeth i ben 31 Rhagfyr 2019.
Awdur yr adroddiad: Janet Kelly
Dyddiad cyhoeddi: 23/11/2020
Dyddiad y penderfyniad: 11/02/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 11/02/2020 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd
Accompanying Documents: