Manylion y penderfyniad
The Installation of Vehicular Crossings on the Public Highway
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To provide Scrutiny with details of the policy
and processes required to lower highway kerbs to allow access to
private properties.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd adroddiad i roi manylion y polisi a phrosesau sy’n ofynnol i ostwng palmentydd priffyrdd i ganiatáu mynediad i eiddo preifat.
Rhoddodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd wybod fod y rhan fwyaf o eiddo yn y Sir â chroesfannau presennol a bod y Cyngor, fel Awdurdod Priffyrdd, yn gyfrifol am gynnal y cyfleuster. Fodd bynnag, mae’r Cyngor yn cael ceisiadau’n rheolaidd am bwyntiau mynediad newydd neu ychwanegol, ac roedd polisi am osod Croesfannau newydd i Gerbydau wedi’i gymeradwyo’n flaenorol gan y Cabinet. Gallai preswylwyr ymgeisio i ostwng y palmant o flaen eu heidio a gosod mynedfa i gerbydau i’w heiddo, o’r rhwydwaith priffyrdd a fabwysiadwyd, a fyddai’n cael ei hadeiladu i fanyldeb y cytunwyd arni ac ar gost yr ymgeisydd. Roedd manylion y prosesau’n gysylltiedig â gosod croesfannau i gerbydau wedi’u hatodi i’r adroddiad.
Cododd y Cynghorydd Sean Bibby nifer o bryderon o ran parcio ar y stryd y phalmentydd wedi’u gostwng. Mewn ymateb i’r Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd, cyfeiriodd at Adran 3 o’r Polisi’n cyfeirio at groesfannau i gerbydau a rhoddodd wybod fod pob cais yn cael ei ystyried yng nghyd-destun beth oedd yn fwyaf priodol ar gyfer y stryd.
Holodd y Cynghorydd Chris Bithell pa weithdrefnau a oedd yn eu lle i sicrhau bod palmentydd is yn cael eu hawdurdodi a pha gamau a gymerir os nad yw hyn yn digwydd. Rhoddodd y Prif Swyddog wybod, os bydd y Cyngor yn dod i wybod am waith heb awdurdod, yna gellid cymryd camau ôl-weithredol.
Cynigiwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd David Evans a'i eilio gan y Cynghorydd Owen Thomas.
PENDERFYNWYD:
Bod y broses ar gyfer gosod croesfan i gerbydau ar y Rhwydwaith Priffyrdd yn cael ei nodi.
Awdur yr adroddiad: Steve Jones
Dyddiad cyhoeddi: 02/10/2020
Dyddiad y penderfyniad: 14/01/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 14/01/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd
Dogfennau Atodol: