Manylion y penderfyniad
Review of Streetlighting Policy
Statws y Penderfyniad: Deleted
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To seek a recommendation to Cabinet to approve
the revised Streetlighting Policy
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) adroddiad i geisio argymhelliad i’r Cabinet i gymeradwyo’r Polisi Goleuadau Stryd diwygiedig.
Rhoddodd y Prif Swyddog wybodaeth gefndir a dywedodd bod y Polisi Goleuadau Stryd presennol wedi’i gymeradwyo yn 2015, fodd bynnag, bu datblygiadau sylweddol o ran dewisiadau rhad-ar-ynni a gwelliannau o ran effeithiolrwydd offer trydanol a bellach roedd angen adolygu’r polisi. Gwahoddodd y Prif Swyddog y Rheolwr Gweithredol y Gogledd a Goleuadau Stryd i gyflwyno’r adroddiad.
Rhoddodd y Rheolwr Gweithredol y Gogledd a Goleuadau Stryd adroddiad ar ystyriaethau allweddol, fel y manylwyd yn yr adroddiad, a thynnodd sylw i’r prif newidiadau i’r Polisi yn ymwneud ag archwiliadau min nos, archwiliadau a drefnwyd a phrofion trydanol. Roedd Polisi Goleuadau Stryd diwygiedig (Hydref 2019) ynghlwm i’r adroddiad.
Roedd y Cynghorydd Dennis Hutchinson yn mynegi pryderon am oleuadau stryd ar ddatblygiadau preswyl heb eu mabwysiadu. Ymatebodd swyddogion i’r cwestiynau a godwyd yngl?n â cheisiadau cynllunio, mabwysiadu i berchnogaeth awdurdod lleol a gorfodaeth. Roedd Rheolwr Gweithredol y Gogledd a Goleuadau Stryd yn tynnu sylw at dudalen 145 o’r adroddiad oedd yn cyfeirio at fabwysiadu’r rhestr eiddo goleuadau stryd. Roedd yr Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad yn cydnabod y pwyntiau a godwyd a dywedodd fod Llywodraeth Cymru yn ystyried datblygiadau preswyl heb eu mabwysiadu.
Roedd aelodau yn diolch i’r Prif Swyddog a’i dîm am y gwelliannau i oleuadau stryd.
Mewn ymateb i’r sylwadau gan y Cynghorydd Ray Hughes yn ymwneud â goleuadau mewn ardaloedd chwarae yn ystod misoedd y gaeaf, dywedodd y Rheolwr Gweithredol y Gogledd a Goleuadau Stryd y byddai’r Cyngor Tref/Cymuned angen cyflwyno cais i’r Awdurdod ei ystyried i ddechrau.
Cafodd yr argymhellion eu cynnig gan y Cynghorydd George Hardcastle ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Dennis Hutchinson.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn argymell i’r Cabinet gymeradwyo’r Polisi Goleuadau Stryd diwygiedig, fel yn Atodiad 1 i’r adroddiad a nodi’r materion a godwyd gan Aelodau; a
(b) Bod yr adroddiad ar y ddeddfwriaeth yn cael ei gyflwyno i gyfarfod o’r Pwyllgor yn y dyfodol.
Awdur yr adroddiad: Steve Jones
Dyddiad cyhoeddi: 14/10/2020
Dyddiad y penderfyniad: 12/11/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 12/11/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd
Dogfennau Atodol: