Manylion y penderfyniad
Cofnodion
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Penderfyniadau:
Gofynnodd y Cynghorydd Paul Shotton os byddai modd darparu dogfen Pwy ‘di Pwy o’r Swyddogion Tai i’r Pwyllgor. Yn ogystal dywedodd bod diddordeb ar gyfryngau cymdeithasol o ran Aldi yn dod i Gei Connah a gofynnodd a fyddai modd darparu rhagor o wybodaeth. Dywedodd yr Hwylysydd y byddai’n dosbarthu’r ddogfen Pwy ‘di Pwy i’r Pwyllgor pan fydd ar gael, a bydd yn gwneud cais am ymateb gan y Rheolwr Gwasanaeth – Menter ac Adfywio ar y posibilrwydd o Aldi yn dod i Gei Connah.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd ynghylch yr adolygiad Llety Gwarchod, dywedodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) ei bod yn adolygiad eang gyda gwybodaeth ychwanegol a fydd yn cael ei rannu i’r Pwyllgor yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Gofynnodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin os oedd ymatebion wedi dod i law yn dilyn y camau gweithredu oedd heb eu gwneud o'r cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ym mis Mawrth :-
- A oedd y Cabinet wedi gwneud penderfyniad ar gyllid ychwanegol ar gyfer adfywio canol tref, fel yr amlinellir yn yr adroddiad yr oedd y Pwyllgor wedi’i ystyried yng nghyfarfod mis Mawrth;
- Y wybodaeth ychwanegol ar gyhoeddiad Llywodraeth Cymru y bydd 7 tref ledled Gogledd Cymru yn manteisio o gael cysylltiad Wi-Fi am ddim;
- Bydd gwybodaeth ar bympiau gwres yr awyr yn cael ei ddosbarthu i’r Aelodau fel y gellir ei rannu gyda phreswylwyr yn eu newyddlenni.
Bydd yr Hwylusydd yn ymlid y camau gweithredu hyn a darparu’r wybodaeth berthnasol i’r Pwyllgor yn dilyn y cyfarfod.
Cynigiodd y Cynghorydd Dolphin bod y cofnodion yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir ac eiliodd y Cynghorydd Shotton hynny.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cofnodion fel rhai cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.
Dyddiad cyhoeddi: 19/01/2021
Dyddiad y penderfyniad: 07/07/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 07/07/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter
Accompanying Documents: