Manylion y penderfyniad

Flintshire Integrated Transport Strategy

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

That Scrutiny note the progress made to develop the Flintshire Integrated Transport Strategy.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) adroddiad i ddiweddaru’r Pwyllgor ar y gwaith sy’n cael ei wneud i ddatblygu Strategaeth Cludiant Integredig Sir y Fflint a gyflwynwyd diwethaf i’r Cabinet yn 2018.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog a’r Rheolwr Strategaeth Priffyrdd gyflwyniad ar y cyd oedd yn delio â’r meysydd canlynol:-

 

·         Hierarchaeth Cludiant yng Nghymru;

·         Nodau ac Amcanion

·         Ateb Cwbl Integredig;

·         Blaenoriaethau Allweddol Sir y Fflint; a’r

·         Allwedd i Lwyddiant

 

Diolchodd y Cynghorydd Paul Shotton i’r swyddogion am eu gwaith yn llunio’r Strategaeth Cludiant Integredig, dyma sylw a gefnogwyd gan nifer o Aelodau’r Pwyllgor.  Cafwyd manylion o’r mentrau a gyflwynwyd yng Nghei Connah, yn cynnwys y groesfan newydd i gerddwyr ar Ffordd yr Wyddgrug a’r gwelliannau i Wasanaeth Gwennol Glannau Dyfrdwy a gafodd eu croesawu.  Gofynnodd am sicrwydd ynghylch amlder a diogelwch y rhwydwaith bws wrth symud ymlaen i alluogi pobl i barhau i gael mynediad i gyflogaeth ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy.

 

Wrth ymateb i’w gwestiwn fe groesawodd y Cynghorydd Dave Wisinger y wybodaeth a ddarparodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet ar gyflwyno llwybr beicio o’r Wyddgrug i Airbus a fyddai’n cysylltu Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy ac yn cynnwys Queensferry a Sandycroft.

 

Croesawodd y Cynghorydd Chris Dolphin y gwaith sy’n cael ei wneud i ddarparu gwasanaethau bws mewn ardaloedd gwledig.  Mynegodd ei bryderon ynghylch Trafnidiaeth Cymru yn lleihau amseroedd ac amlder gwasanaethau rheilffyrdd yng Ngogledd Cymru ond fe groesawodd y sylwadau gan y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet fod adborth a chynrychiolaeth ar y pryderon hyn yn cael eu gwneud gan y Cyngor.  Fe groesawodd y mesurau diogelwch arfaethedig ar gyfer Well Hill, Treffynnon.  Mewn ymateb i’w gais ar ddiweddaru’r amserlenni bysiau mewn gorsafoedd bysiau ar draws Sir y Fflint fe sicrhaodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet ei fod yn y broses o gael ei ddiweddaru.

 

Gofynnodd y Cynghorydd David Evans am eglurhad ar y union leoliad i bobl gael mynediad i Wasanaeth Gwennol Glannau Dyfrdwy.  Eglurodd y Prif Swyddog fod gwaith yn cael ei wneud er mwyn sicrhau man codi/gollwng ar gyfer Gwasanaeth Gwennol Glannau Dyfrdwy ar Ffordd Tata Steel. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Owen Thomas y byddai wedi hoffi gweld cyfeiriad at drydaneiddio’r llinell rheilffordd yn y Strategaeth gan dynnu sylw hefyd at y gwyriadau rheolaidd yn eu lle oherwydd achosion ar yr A55 a oedd yn ei farn ef yn cael effaith andwyol ar rwydwaith y Sir.  Dywedodd y Prif Swyddog fod Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn edrych ar fannau cyfyng yn dilyn gwyriadau o’r A55 ond fe sicrhaodd yr Aelodau fod y Cyngor yn edrych am gyllid ychwanegol ar gyfer gwaith gwelliannau o ganlyniad i ddefnydd ychwanegol o rwydwaith y Sir.

 

Mynegodd y Cynghorydd George Hardcastle ei bryderon am y cynigion i gyflwyno llwybr beics ar hyd Aston Hill a’r diffyg ymgynghoriad a fu gydag Aelodau Lleol.  Roedd ganddo bryderon diogelwch os oedd y llwybr beicio ddim yn cynnwys rhwystrau diogelwch.  Cytunodd y Prif Swyddog i drafod hyn gyda’r Cynghorydd Hardcastle ar ôl y cyfarfod.

 

Trafododd y Cynghorydd Mike Peers nodau ac amcanion y Strategaeth ond teimlai nad oedd y Cyngor wedi’u cyflawni eto.  Gofynnodd bod adroddiad ar wasanaethau ychwanegol ar hyd y ffin yn cael ei gyflwyno mewn cyfarfod o’r Pwyllgor yn y dyfodol yn dilyn pryderon blaenorol y Cynghorydd Dave Evans fod gwasanaethau ychwanegol yn gallu arwain at leihad mewn gorsafoedd stopio.  Fe groesawodd y mesurau diogelwch a gyflwynwyd yn Ysgol Gynradd Mountain Laneond fe dynnodd sylw at y pryderon nad oedden nhw’n cael eu gorfodi a gofynnodd p’un ai y dylid ystyried cyfnod o beilota camerâu yn y lleoliad.  Fe gwestiynodd y ffi o £10 hefyd ar gyfer defnyddio Gwasanaeth Cludiant yn Seiliedig ar Alw ac roedd yn bryderus fod hynny’n anfanteisiol i breswylwyr mewn ardaloedd gwledig.  Manylodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet y gwaith sy’n cael ei wneud gan swyddogion i gwrdd â nodau ag amcanion y Strategaeth, yn cynnwys gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a gwella cysylltiadau cludiant i Ysbyty Maelor Wrecsam.  Fe eglurodd hefyd yn ystod ymgynghoriad fod preswylwyr wedi cytuno â’r ffi o £10 gan fod y gwasanaeth yn ddibynnol ar argaeledd cyllid grant i’w wneud yn hyfyw i barhau ar gyfer y dyfodol.  Dywedodd y Prif Swyddog mai’r gobaith oedd drwy gynnal gwybodaeth ar y preswylwyr yn ystod y Gwasanaeth Cludiant yn Seiliedig ar Alw, y byddai’n bosib yn y dyfodol i gysylltu â nhw pan fyddai digwyddiadau yn cael eu trefnu yn eu hardal, er mwyn gallu darparu nhw â chludiant i’r digwyddiadau hyn.

 

      Mewn ymateb i sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Peers ar nifer y mentrau wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad yng Nglannau Dyfrdwy, dyma’r Aelod Cabinet ar gyfer Datblygiad Economaidd yn tynnu sylw at y lefel o gyllid a oedd wedi cael ei dynnu o’r gwasanaeth dros y 10 mlynedd diwethaf.  Cynghorodd nad oedd llwybr bysiau i Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy ond dywedodd am y pwysigrwydd o sicrhau fod y 9,900 o weithwyr yn cael eu cyflogi gan y Parc yn gallu cael mynediad i gyflogaeth trwy gludiant cyhoeddus.     

 

Mynegodd y Cynghorydd Ray Hughes bryderon am gael gwared ar lwybr bysiau o fewn ei ward a gofynnodd os oedd bwriad rhoi i breswylwyr i gael mynediad i fwynderau.  Eglurodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet  bod y Gwasanaeth Cludiant yn Seiliedig ar Alw yn helpu preswylwyr ac yn rhoi manylion o’i lansiad cynharach yn y dydd.  Cytunwyd i ddosbarthu gwybodaeth ar y Gwasanaeth hwn i’r holl Aelodau ar ôl y cyfarfod.

 

Er bod y Cynghorydd Paul Johnson yn croesawu’r adroddiad fe ddywedodd bod angen am brisiau siwrnai wedi’u rheoleiddio, a thynnodd sylw at gost uchel trên o Fflint i Lundain.  Dywedodd y Prif Swyddog bod prisiau siwrnai ar gyfer y trên allan o ddwylo’r Cyngor ond pe bai’r gwasanaeth yn ddibynadwy yna byddai mwy o obaith i bobl ei ddefnyddio ac felly byddai’r prisiau yn lleihau yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      I nodi bod hierarchaeth strategaeth cludiant yng Nghymru a’r berthynas rhwng polisi cenedlaethol a lleol yn helpu i adnabod yr ymyraethau uniongyrchol sydd eu hangen i gyflawni gwelliannau cludiant allweddol; a

 

 (b)      Nodi cynnydd y Cyngor ar yr ymyraethau allweddol wedi’u diffinio yn y Cydgynllun Cludiant Lleol Gogledd Cymru bresennol.

Awdur yr adroddiad: Steve Jones

Dyddiad cyhoeddi: 31/03/2020

Dyddiad y penderfyniad: 11/02/2020

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 11/02/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd

Accompanying Documents: