Manylion y penderfyniad
Estyn Inspection of Flintshire's Education Services
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To advise of the outcome of the recent Estyn
Inspection of the Flintshire County Council Education
Services.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) adroddiad ar ganlyniad yr Arolwg Estyn diweddar ar Wasanaethau Addysg Cyngor Sir y Fflint. Dywedodd bod y Portffolio Addysg ac Ieuenctid yn fodlon iawn â chanlyniad cadarnhaol yr Arolwg, natur gadarnhaol adroddiad Estyn, a’r meysydd sylweddol o gryfder a gydnabuwyd gan dîm Estyn o ran y ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr yn Sir y Fflint. Cadarnhaodd yr adroddiad arolygu arweinyddiaeth gadarn y gwasanaethau addysg ar draws y Cyngor.
Dywedodd y Prif Swyddog fod y meysydd yr oedd angen eu gwella ym marn Estyn wedi’u hadlewyrchu yn yr argymhellion yn yr adroddiad arolygu er mwyn i’r Cyngor fynd i’r afael â nhw. Esboniodd eu bod eisoes wedi’u nodi fel blaenoriaethau drwy brosesau hunanwerthuso’r Portffolio ac wedi’u cynnwys fel camau gweithredu yng Nghynllun Busnes y Portffolio (o’r enw Cynllun Gweithredu Ôl Arolwg). Byddai’r cynnydd o ran yr argymhellion yn cael ei adrodd i’r Cabinet a’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid yn rheolaidd. Dywedodd y byddai adroddiad ar Gynllun Gweithredu Ôl Arolwg yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 7 Tachwedd.
Diolchodd y Prif Swyddog i’w thîm am eu gwaith caled ac am y gefnogaeth gan bawb yn ystod y broses arolygu. Dywedodd y bu’r Tîm Arolygu’n deg ond yn llym ac fe ategodd fod y Portffolio Addysg ac Ieuenctid yn falch iawn â’r canlyniad.
Mynegodd y Cynghorydd Ian Roberts ei ddiolch i’r Prif Swyddog a’i thîm, y Penaethiaid a phawb am eu gwaith caled a’r canlyniad cadarnhaol a oedd yn adlewyrchu safon y gwasanaeth a oedd yn cael ei ddarparu i ddysgwyr a phobl ifanc yn Sir y Fflint.
Mynegodd y Cadeirydd longyfarchion i’r Prif Swyddog a’i thîm ar ran y Pwyllgor am eu cyflawniad a hefyd yr astudiaeth achos o Sir y Fflint a ddefnyddiwyd ar wefan Estyn i ddangos arferion effeithiol wrth ddatblygu dysgu cynnar.
Mewn ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Geoff Collett ynghylch sgiliau bywyd disgyblion, dywedodd y Prif Swyddog y byddai model cwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno a fyddai’n rhoi mwy o hyblygrwydd i ysgolion, yn enwedig ar lefel ddiweddarach, i sicrhau bod y cwricwlwm yn eang ac yn diwallu anghenion dysgwyr unigol, gan symud oddi wrth enwi a chodi cywilydd ar ysgolion nad oedd yn cyflawni’r safon aur. Pwysleisiodd yr Uwch Reolwr Gwella Ysgolion y byddai Iechyd a Lles wedi'u pwysoli’n gyfartal â chyflawniadau academaidd yn y cwricwlwm newydd.
Soniodd y Cadeirydd am y materion a godwyd yn flaenorol gan y Pwyllgor ynghylch canlyniadau TGAU Iaith Saesneg yn yr haf 2018 a’r eithriadau wrth osod ffiniau graddau. Mewn ymateb, dywedodd yr Uwch Reolwr Gwella Ysgolion fod y newidiadau o ran ffiniau graddau wedi cael eu trafod yn ystod cyfarfod diweddar Ffederasiwn y Prifathrawon ond nid oedd y materion a brofwyd y llynedd yn dod i’r amlwg eto eleni. Cafwyd sicrwydd gan CBAC fod y safonau yr un fath ar draws yr holl fyrddau arholi a bod y mater hwn yn cael ei fonitro’n agos.
Soniodd Mr David Hytch am reoli perfformiad a diffyg cyllid ar gyfer ysgolion yn Sir y Fflint. Cynigodd ychwanegu’r argymhelliad canlynol at adroddiad y Pwyllgor: ‘Bod y Pwyllgor yn gresynu at fethiant Estyn i dynnu sylw at y diffyg cyllid sy’n amharu ar addysg yn Sir y Fflint’. O’i roi i bleidlais, cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.
PENDERFYNWYD:
(a) Cydnabod adroddiad Estyn ar wasanaethau addysg yn Sir y Fflint a’i ganfyddiadau; a
(b) Bod y Pwyllgor yn gresynu at fethiant Estyn i dynnu sylw at y diffyg cyllid sy’n amharu ar addysg yn Sir y Fflint.
Awdur yr adroddiad: Claire Homard
Dyddiad cyhoeddi: 08/01/2020
Dyddiad y penderfyniad: 26/09/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 26/09/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid
Dogfennau Atodol: