Manylion y penderfyniad
Revenue Budget Monitoring 2019/20 (Month 5)
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
This regular monthly report provides the
latest revenue budget monitoring position for 2019/ 20 for the
Council Fund and Housing Revenue Account. The position is based on
actual income and expenditure as at Month 5 and projects forward to
year-end
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad ar sefyllfa monitro’r gyllideb refeniw ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai (HRA) ar Fis 5 i’w ystyried gan y Cabinet. Roedd yr adroddiad yn adlewyrchu sefyllfa’r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol os na fyddai unrhyw newid.
Roedd y sefyllfa a ragwelid ar ddiwedd y flwyddyn, heb gamau gweithredu newydd i leihau pwysau costau a gwella’r elw ar gynllunio effeithlonrwydd, yn ddiffyg gweithredol o £3.042m oedd yn symudiad negyddol o £0.059m a adroddwyd y mis diwethaf. Roedd y ddau brif faes amrywiant wedi’u hadrodd yn y cyfarfod blaenorol lle’r oedd y Pwyllgor yn fodlon fod cwmpas cyfyngedig iawn ar gyfer lliniaru er mwyn lleihau’r gwariant o fewn y flwyddyn a byddai effaith anorfod ar sefyllfa’r gyllideb o 2020/21. Roedd hyn yn cael ei gynnwys yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig i’w rhannu yn Nhachwedd. I helpu i liniaru’r gorwariant cyffredinol a ragwelid, byddai adolygiad a her i’r holl wariant nad oedd yn hanfodol a recriwtio i swyddi gwag er mwyn sicrhau arbedion dros dro o fewn y flwyddyn, a byddai’r canlyniad yn cael ei adrodd i’r cyfarfod nesaf.
Os na fyddai modd lliniaru’r gorwariant presennol, byddai balans y Gronfa Wrth Gefn yn £1.827m, oedd yn sylweddol is na blynyddoedd blaenorol. Roedd y sefyllfa o ran cronfeydd a neilltuwyd yn amodol ar newidiadau yn lefelau balansau rhagamcanol ysgolion oedd wrthi’n cael eu hadolygu.
O ran y Cyfrif Refeniw Tai, rhagamcanwyd y byddai gwariant o fewn y flwyddyn £0.108m yn fwy na’r gyllideb sy’n gadael balans heb ei glustnodi o 3.35% oedd yn uwch na’r isafswm lefel a argymhellwyd.
Nododd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol gais y Cynghorydd Jones sef bod adroddiad y Cabinet yn y dyfodol yn cael ei atodi yn y ffordd arferol, yn hytrach na dogfen wedi’i sganio. Mewn ymateb i gwestiynau, adroddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod cadarnhad wedi’i dderbyn na fyddai Llywodraeth Cymru’n darparu refeniw na chyllid cyfalaf ar gyfer costau’n gysylltiedig â’r llifogydd yn cynnwys trwsio ffyrdd o dan gyfrifoldeb y Cyngor. Wrth gymharu ffigyrau terfynol Mis 9 a 10 ar gyfer Rhaglenni Strategol, Tai ac Asedau a Chyllid Canolog a Chorfforaethol, byddai ymateb ar wahân yn cael ei rannu er mwyn deall y gwahaniaeth o ran ffigyrau a hynny o bosibl oherwydd trosglwyddiadau.
Hefyd holodd y Cynghorydd Jones ynghylch sefyllfa bresennol nifer yr ysgolion â chyllideb ddiffyg a dywedwyd y byddai canlyniad yr adolygiad yn cael ei gynnwys mewn adroddiad o’r Gyllideb Refeniw yn y dyfodol. Ar y pwynt yma, siaradodd y Cynghorydd Roberts am y rhesymau a allai olygu bod ysgolion yn y sefyllfa hon.
Soniodd y Cynghorwyr Johnson a Jones am incwm parcio a’r effaith ar ardaloedd lle’r oedd yn bosibl parcio ar y stryd. Dywedodd y Cynghorydd Roberts fod gwaith ar y gweill i sicrhau cyfyngiadau parcio.
Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Collett ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Heesom.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi adroddiad Monitro’r Gyllideb Refeniw 2019/20 Mis 5 ac yn cadarnhau ar yr achlysur hwn nad oes unrhyw faterion penodol y mae'n dymuno eu trafod gyda’r Cabinet.
Awdur yr adroddiad: Gary Ferguson
Dyddiad cyhoeddi: 27/11/2019
Dyddiad y penderfyniad: 17/10/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 17/10/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Dogfennau Atodol: