Manylion y penderfyniad

Update Report following the Disabled Facilities Grant Internal Audit Report 2017

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To provide an update on progress in relation to the service control action plan

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Rheolwr Budd-Daliadau adroddiad i roi diweddariad ar gynnydd o ran y cynllun gweithredu rheoli gwasanaeth.    Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd bod Grant Cyfleuster i’r Anabl ar gael i berchnogion sy’n byw yn eu heiddo a thenantiaid preifat i helpu unigolion fyw gydag anabledd gyda’r gost o addasu eu cartrefi i'w galluogi i barhau i fyw yn eu heiddo.  Y mwyafswm grant ar gael yng Nghymru oedd £36k.  Lle roedd cais ar gyfer plentyn, neu bod yr ymgeisydd yn derbyn budd-daliadau cymhwysiad priodol, nid oedd yna brawf modd ac roedd cost yr addasiad hyd at fwyafswm y grant wedi’i roi.  Ar gyfer ceisiadau eraill roedd maint y grant yn amrywio o sero i fwyafswm yn dibynnu ar gost y gwaith a gymeradwywyd ac amgylchiadau ariannol yr ymgeisydd.    

 

Dywedodd y Rheolwr Budd-Daliadau yn dilyn archwiliad mewnol bod bwrdd arolygiaeth wedi’i sefydlu ym mis Gorffennaf 2018 i sicrhau bod yna welliant digonol a brys ar gyfer darparu’r Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl.  Roedd gwaith ar y gweill i fynd i’r afael a gweithredu’r argymhellion o fewn yr adroddiad archwilio ac adolygu darpariaeth gwasanaeth i wneud gwelliannau.   Roedd cynllun gweithredu wedi’i ddiweddaru ynghlwm i’r adroddiad oedd yn manylu’r cynnydd a wnaed.   Roedd y Rheolwr Budd-Daliadau yn adrodd ar y gwelliannau a’r newidiadau i ddarpariaeth gwasanaeth Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl, fel y manylwyd yn yr adroddiad a dywedwyd y byddai gwaith yn parhau hyd 2019/20 i wella amseroedd ac ansawdd darpariaeth ymhellach a dod â’r gwasanaeth yn unol ag argymhellion yn dilyn Adroddiad Addasiadau Tai Swyddfa Archwilio Cymru a safonau gwasanaeth Addasiadau Tai Llywodraeth Cymru.

 

Mewn ymateb i sylw gan y Cadeirydd, eglurodd y Rheolwr Budd-Daliadau lle roedd angen addasiadau roeddent yn anaddas ym mhreswylfa presennol yr ymgeisydd ac roedd Grant Adleoli Cyfleusterau i’r Anabl ar gael ar gyfer costau symud person anabl i eiddo mwy addas.     

 

Llongyfarchodd Aelodau’r Rheolwr Budd-Daliadau a’i thîm am eu gwaith a’u cyflawniadau i wella darpariaeth gwasanaeth Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl.   

 

Gofynnodd y Cynghorydd Paul Shotton a oedd cymorth pellach ar gael os oedd y gost addasiadau yn uwch na £36k o fwyafswm grant yn daladwy yng Nghymru.  Eglurodd y Rheolwr Budd-Daliadau y byddai Grant Ychwanegol yn ôl Disgresiwn yn cael ei ystyried mewn amgylchiadau eithriadol, hyd at swm o £39k, lle roedd cost y gwaith gofynnol yn fwy na’r terfyn statudol o £36k.   Hefyd, dywedodd y gellir cyflwyno benthyciad ychwanegol Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl, a oedd yn fenthyciad yn ôl disgresiwn a sicrhawyd yn erbyn gwerth yr eiddo i ddiwallu costau’r addasiad oedd yn uwch na’r Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl a’r grant ychwanegol Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl.    

 

  Ailategodd y Rheolwr Budd-Daliadau y byddai swm y grant Cyfleusterau i Bobl Anabl yn dibynnu ar gost y gwaith cymeradwy a lle bo’n briodol amgylchiadau ariannol ymgeisydd.   Byddai prawf modd yn cael ei gynnal ar geisiadau ac eithrio ymgeiswyr sy’n blant lle roedd yr ymgeisydd h?n yn derbyn gostyngiad Treth y Cyngor a/neu Budd-dal Tai.

 

 Gofynnodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin a oedd anghenion tymor hir y plant yn cael eu cymryd i ystyriaeth i’w galluogi i barhau i fyw yn y breswylfa.  Eglurodd y Rheolwr Budd-Daliadau bod canllawiau proffesiynol gan dimau Gwasanaethau Cymdeithasol a Therapi Galwedigaethol wedi eu hystyried i bennu cais ar gyfer Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl a chadarnhaodd bod adolygiadau rheolaidd yn cael eu cynnal ac roedd anghenion hirdymor yr unigolyn a’u teulu wedi’i gymryd i ystyriaeth. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge am yr adolygiad o brosesau a fyddai’n gwella amseroedd darparu Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl yn y dyfodol. 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Paul Johnson at yr adolygiad o gytundeb Fframwaith Gwasanaeth Lifft Stannah a gofynnodd a oedd yn ddigonol.    Cadarnhaodd y Rheolwr Budd-Daliadau bod yr adolygiad wedi gweld bod y cytundeb yn cydymffurfio â gweithdrefnau CPR y Cyngor.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson a oedd offer ymaddasu a ddarparwyd ond nad oedd yn cael ei ddefnyddio mwyach yn cael ei ailgylchu ac roedd yn ystyried lifft grisiau.  Eglurodd y Rheolwr Budd-Daliadau lle roedd hynny’n bosibl roedd offer ymaddasu yn cael ei ailgylchu, yn amodol ar y profion angenrheidiol ac ati yn cael eu cynnal a chytunodd i edrych ar pa un a ellir mesur graddfa llwyddiant yr offer ailgylchu. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi cynnwys yr adroddiad a'r camau a gymerwyd hyd yma; a

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi gwaith parhaus yn y gwasanaeth i wella darpariaeth gwasanaeth i'n cwsmeriaid. 

Awdur yr adroddiad: Jen Griffiths

Dyddiad cyhoeddi: 25/06/2019

Dyddiad y penderfyniad: 13/03/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 13/03/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter

Accompanying Documents: