Manylion y penderfyniad
Safeguarding – Adults & Children
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To provide Members with statistical
information in relation to Safeguarding & Adults &
Children
Penderfyniadau:
Cyflwynodd yr Uwch-reolwr Diogelu a Chomisiynu adroddiad oedd yn rhoi gwybodaeth ystadegol a gwybodaeth yn ymwneud â pherfformiad am gyd ddarpariaeth Diogelu Plant ac Oedolion o fewn ffiniau’r Sir. Dywedodd bod yr adroddiad hefyd yn amlygu’r amrywiaeth o waith a wneir gan yr Uned Ddiogelu, a gweithgarwch yr Uned. Roedd yr adroddiad yn crynhoi gwersi allweddol o adolygiadau Ymarfer Plant ac Oedolion ac Adolygiadau Dynladdiad Domestig.
Soniodd yr Uwch-reolwr Diogelu a Chomisiynu am y prif ystyriaethau, fel y manylwyd yn yr adroddiad, a gwahoddodd Reolwr Gwasanaeth yr Uned Ddiogelu i ddarparu trosolwg o'r gwaith sy’n ymwneud â chyfrifoldebau’r Uned Ddiogelu o safbwynt amddiffyn plant, diogelu oedolion, oedolion sydd mewn perygl, Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid, a Phlant Dan Ofal.
Diolchodd y Cadeirydd i swyddogion am eu hadroddiad ar y cyd.
Soniodd y Cynghorydd Kevin Hughes am y materion o ddiogelwch ar-lein, cam-drin ar y cyfryngau cymdeithasol, a dibyniaeth ar hapchwarae ar-lein, a gofynnodd pa beth oedd yn cael ei wneud i fynd i'r afael â'r problemau hyn a sut gallai dioddefwyr ddod o hyd i wybodaeth a chyngor. Llongyfarchodd y Cynghorydd Hughes yr Uned Ddiogelu ar eu gwaith ardderchog. Dywedodd na allai weld unrhyw gyfeiriad at ddiogelwch ar-lein yn yr adroddiad, a fyddai yn ei farn ef yn cwympo o dan diogelu. Gan gyfeirio at yr adroddiad ar Arolygiadau Dynladdiad a’r cyfeiriad at alwad 999 distaw, gofynnodd y Cynghorydd Hughes i’r Pwyllgor ysgrifennu at Lywodraeth Cymru er mwyn gofyn iddynt gyhoeddi'r ffaith os oedd galwad 999 yn ddistaw, mae’n debygol na fyddai unrhyw ymateb i argyfwng.
Cadarnhaodd yr Uwch-Reolwr Diogelu a Chomisiynu bod diogelwch ar-lein yn faes o fewn cylch gwaith yr uned ddiogelu a bod gwaith yn y maes hwn yn mynd rhagddo. Roedd Rheolwr Gwasanaeth yr Uned Ddiogelu yn cydnabod nad oedd diogelwch ar-lein yn cael ei drafod yn yr adroddiad, fod bynnag dywedodd bod yr uned yn ymwybodol iawn o ddiogelwch ar-lein a dywedodd y byddai unrhyw bryderon am ddiogelwch plant yn cael eu hystyried o fewn cynlluniau amddiffyn plant a chynlluniau llys. Cyfeiriodd hefyd at y Panel Pobl sydd ar Goll, wedi’u Camfanteisio arnynt ac wedi’u Masnachu (Missing Exploited Trafficked (MET)), sy'n banel ar y cyd â Wrecsam ac yn ymdrin â phopeth sy’n ymwneud ag achosion o gamfanteisio. Byddai hyn yn cynnwys pryderon am weithgarwch ar-lein.
Croesawodd y Cynghorydd Hilary McGuill y dull amlasiantaeth o rannu gwybodaeth. Canmolodd y gwaith ymyrraeth gynnar a’r gefnogaeth cam-drin domestig, ac awgrymodd y dylai ysgolion gael gwybod cyn y diwrnod ysgol os yw digwyddiadau wedi digwydd, ble bo hynny’n bosib. Awgrymodd y Cynghorydd McGuill y gallai ap i adrodd am fwlio ar ddyfeisiadau symudol fod yn arf defnyddiol.
Roedd Rheolwr Gwasanaeth Diogelu a Chomisiynu yn cytuno â sylwadau y Cynghorydd McGuill. Gan gyfeirio at fwlio, dywedodd er mai yn y maes addysg yr oedd hyn yn bodoli fwyaf, roedd hefyd yn gyfrifoldeb ar bawb.
Eglurodd y Cadeirydd ei bod wedi anfon cyfres o negeseuon e-bost yngl?n â pherson di-gartref yn cysgu ger ysgol feithrin ac nad oedd wedi gallu cysylltu â’r Tîm Digartrefedd ar y ffôn. Roedd wedi galw 101 ac wedi cael ei chynghori i gysylltu â’r Gwasanaethau Cymdeithasol. Pan aeth aelod o’r Tîm Digartrefedd i ymweld â’r ardal cadarnhawyd bod yr Heddlu yn gwybod am yr unigolyn. Cyfeiriodd y Cynghorydd Marion Bateman at ddigwyddiad tebyg ar ei Ward hi. Pwysleisiodd bod diogelu yn gyfrifoldeb ar bawb a bod cydweithio aml-asiantaethol yn hanfodol.
Mewn ymateb i bryder gan y Cynghorydd Gladys Healey ar y mater o honiadau ffug gan blentyn neu berson ifanc, dywedodd Rheolwr Gwasanaeth yr Uned Ddiogelu bod camau’n cael eu cymryd yn unol â gweithdrefnau angenrheidiol pan fyddai atgyfeiriad yn cael ei wneud. Os oedd honiad yn cael ei wneud mewn ysgol roedd athrawon yn cael eu cynghori na ddylent ymchwilio i achosion, ond cymryd yr hanes cyntaf yn unig.
Roedd y Cynghorydd David Healey am ganmol y gwasanaeth a ddarperir gan y Tîm Digartrefedd a dywedodd bod yr Awdurdod yn cymryd safiad gweithredol o ran adnabod pobl ddigartref. Soniodd am wasanaeth ffôn a gwasanaethau ar y cyfryngau cymdeithasol.
Cytunodd yr Uwch-Reolwr Diogelu a Chomisiynu i gylchredeg dolen at wefan streetlink.
PENDERFYNWYD:
(a) Derbyn yr adroddiad fel gwybodaeth berthnasol mewn perthynas ag Uned Ddiogelu Sir y Fflint ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2017 a 31 Mawrth 2018;
(b) Bod y Pwyllgor yn fodlon bod y ddarpariaeth Ddiogelu o fewn y Sir yn gadarn; a
(c) Bod y Pwyllgor yn annog Llywodraeth Cymru i hyrwyddo goblygiadau galwadau 999 distaw, y mae’n bosib na fydd ymateb iddynt.
Awdur yr adroddiad: Neil Ayling
Dyddiad cyhoeddi: 12/02/2019
Dyddiad y penderfyniad: 15/11/2018
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 15/11/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Dogfennau Atodol: