Manylion y penderfyniad
Application for a Private Hire / Hackney Carriage (Joint) Driver Licence
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Is-bwyllgor Trwyddedu
Statws y Penderfyniad: For Determination
Is KeyPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Penderfyniadau:
Cyflwynodd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu'r adroddiad i ystyried cais ar gyfer Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/ Cerbyd Hacni (ar y cyd), wedi ei thrwyddedu gan yr Awdurdod.
Eglurodd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu fod y cais wedi gofyn am fanylion unrhyw euogfarnau blaenorol ac roedd yr ymgeisydd wedi datgelu euogfarn o'r gorffennol. Fodd bynnag, pan dderbyniwyd datgeliad cofnodion troseddol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) yr ymgeisydd, dangoswyd rhagor o euogfarnau gyda throseddau ar wahân. Atodwyd eglurhad ysgrifenedig o’r holl euogfarnau i’r adroddiad. Yn sgil natur yr euogfarnau, gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymddangos gerbron yr Is-bwyllgor Trwyddedu i benderfynu a oedd yn unigolyn addas a phriodol i ddal Trwydded Yrru ar y Cyd.
Gofynnodd y Cadeirydd i’r ymgeisydd egluro amgylchiadau ei euogfarnau fel y manylwyd yn yr adroddiad. Eglurodd yr ymgeisydd fod rhai o’r troseddau wedi’u cyflawni yn ystod ei ieuenctid ac fe gyfeiriodd at ei amgylchiadau personol a theuluol ar y pryd.
Holodd y Cyfreithiwr yr ymgeisydd am ei hanes cyflogaeth a gofynnodd iddo egluro pam nad oedd wedi datgelu ei holl euogfarnau ar y cais. Eglurodd yr ymgeisydd ei fod wedi camddeall ac yn credu nad oedd angen iddo ddatgan ei euogfarnau cynharach gan y cyflawnwyd y rhain sawl blwyddyn ynghynt. Ceisiodd y Cyfreithiwr ragor o eglurhad gan yr ymgeisydd am yr amgylchiadau a’r dedfrydau a roddwyd iddo am ei euogfarnau. Holodd y Cyfreithiwr yr ymgeisydd yn fanwl am ei ddealltwriaeth a difrifoldeb ei euogfarn am "Ddweud celwydd yn y Llys” a cheisiodd rhagor o wybodaeth am amgylchiadau’r drosedd honno.
Pan ofynnwyd iddo, ymatebodd yr ymgeisydd ei fod yn ystyried ei hun yn unigolyn cymwys a phriodol i dderbyn trwydded ac fe gyfeiriodd at ei fywyd teuluol sefydlog a’i gofnod cyflogaeth. Dywedodd ei fod eisiau gweithio i gefnogi ei deulu.
Pan oedd y Cadeirydd yn fodlon fod yr holl gwestiynau perthnasol wedi eu gofyn, gofynnodd i’r ymgeisydd a’r Arweinydd Tîm Trwyddedu adael y cyfarfod tra’r oedd y panel yn penderfynu ar y cais.
4.1 Penderfyniad ar y Cais
Ar ôl ystyried y cais roedd yr Is-bwyllgor o'r farn fod yr ymgeisydd yn unigolyn cymwys a phriodol o fewn ystyr Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 i feddu ar Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd). Fodd bynnag, oherwydd pryderon y panel o ran natur y troseddau, cytunwyd y dylid rhoi trwydded am gyfnod prawf o 12 mis. Byddai’n ofynnol i’r Ymgeisyddymgymryd â gwiriad cofnodion troseddol uwch y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) ar ei draul ei hun ac ar adeg briodol a bennir gan yr Adain Drwyddedu.
Gwahoddwyd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu a’r ymgeisydd yn ôl a chafodd y cyfarfod ei ailymgynnull.
4.2 Penderfyniad
Cynghorodd y Cadeirydd yr ymgeisydd fod yr Is-bwyllgor wedi penderfynu ei fod yn unigolyn cymwys a phriodol i feddu ar Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni ac fe’i gymeradwywyd am drwydded am gyfnod prawf o ddeuddeg mis. Eglurodd y Cadeirydd i’r ymgeisydd y byddai’n ofynnol iddo ymgymryd â gwiriad cofnodion troseddol uwch gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) ar ei draul ei hun ac ar adeg a bennir yn briodol gan yr Adain Drwyddedu.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod yr ymgeisydd yn unigolyn cymwys a phriodol i gynnal Trwydded Yrru Cerbyd
Hurio Preifat/Cerbyd Hacni o dan y Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau
Amrywiol) 1976 a rhoi trwydded am gyfnod prawf o ddeuddeg mis; ac
(b) Y cynhelir gwiriad cofnodion troseddol uwch gan y Gwasanaeth Datgelu a
Gwahardd (GDG) ar ei draul ei hun ac ar adeg briodol a bennir gan yr Adain Drwyddedu.
(Dechreuodd yr ail wrandawiad am 11.00am a daeth i ben am 12.00pm.)
Awdur yr adroddiad: Gemma Potter
Dyddiad cyhoeddi: 31/08/2018
Dyddiad y penderfyniad: 15/02/2018
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 15/02/2018 - Is-bwyllgor Trwyddedu