Manylion y penderfyniad
Pension Regulator Code of Practice
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Penderfyniadau:
Alwyn Hughes (Rheolwr Cyllid Pensiynau) a Kerry Robinson (Prif Swyddog Pensiynau, Tîm Cyswllt Gweithwyr) a gyflwynodd Cod Ymarfer TPR. Roedd Mr Hughes yn ymwybodol y byddai hyn y tro cyntaf y byddai rhan fwyaf o’r PFC wedi gweld y rhestr wirio cydymffurfiaeth. Eglurodd, er ei fod yn defnyddio llawer o adnoddau, roedd yn fanteisiol gan ei fod yn amlygu meysydd y gall y Cronfa ei wella.
Amlygodd Mr Hughes bod rhai o’r eitemau yn y rhestr wirio yn arferion gorau yn hytrach na rheoleiddiol, ond bydd y rhestr wirio yn cael ei ddiwygio fel y gellir amlygu'r elfennau rheoleiddiol.
Amlygodd Mrs Robinson bod Adran 1.04 o’r adroddiad eglurhaol yn dangos trosolwg o ble’r oedd y Gronfa yn cydymffurfio gyda niferoedd mewn cromfachau yn dangos canlyniadau’r flwyddyn flaenorol.
Aeth Mr Hughes a Mrs Robinson drwy’r dangosfwrdd crynodeb yn rhoi sylw ar nifer o feysydd a oedd yn dangos eu bod yn cydymffurfio'n rhannol neu ddim yn cydymffurfio. Nodwyd mewn rhai meysydd y gallai’r Gronfa ddewis aros i beidio â chydymffurfio e.e. hyfforddi aelodau newydd y Bwrdd Pensiwn yn cael ei gyflawni ar ôl penodiad, yn hytrach chyn sef yr hyn a awgrymwyd gan y Cod Ymarfer. Roedd y syniad i symud i gydymffurfiaeth llawn cyn gynted ag y bo'n ymarferol yn y meysydd a nodwyd angen eu gweithredu.
Amlygodd Mrs McWilliam bod rôl statudol y Bwrdd Pensiwn i gynorthwyo i sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion Rheoleiddiwr Pensiwn ac felly bydd hyn ar agenda nesaf Bwrdd Pensiwn i edrych mewn fwy o fanylder ac i ddatblygu cynllun gweithredu.
PENDERFYNWYD
1. Roedd y Pwyllgor yn ystyried canfyddiadau yr adolygiad.
2. Nododd y Pwyllgor y byddai swyddogion yn creu cynllun gweithredu ar wahân i feysydd sydd yn cydymffurfio a datblygu parhaus.
3. Nododd y Pwyllgor y bydd swyddogion yn cyflawni asesiad pellach yn ystod 2018 yn erbyn y rhestr wirio cydymffurfio hwn a fydd yn cael ei adrodd yn ôl i’r Pwyllgor a’r Bwrdd Pensiwn.
Awdur yr adroddiad: Maureen Potter
Dyddiad cyhoeddi: 28/02/2018
Dyddiad y penderfyniad: 20/09/2017
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 20/09/2017 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd
Accompanying Documents: