Manylion y penderfyniad
Medium Term Financial Strategy Update
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To present the financial forecast for
2018/19.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad ar y rhagolwg ariannol diwygiedig ar gyfer 2018/19 fel rhan o adnewyddu’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS).
Rhoddwyd gyflwyniad a oedd yn trafod y meysydd canlynol:
· Rhagolygon Ariannol 2018/19
· Prif bwysau
· Risgiau ac Effeithiau Posibl o 2017/18
· Sefyllfa Genedlaethol
· Gwneud Achos Cenedlaethol
· Camau Nesaf
Roedd y rhagolwg diwygiedig yn dangos bwlch a ragwelir o £11.7m ar gyfer 2017/18 cyn unrhyw fodelu ar lefelau Treth Y Cyngor cynyddol. Roedd y rhagolygon wedi seilio ar ystod o wybodaeth gan gynnwys pwysau cenedlaethol, lleol a gweithlu. Er y gellir rhagweld rhai materion yn sicr, roedd rhai y tu allan i reolaeth y Cyngor. Y ddau ffactor mwyaf sylweddol oedd setliad ariannol llywodraeth leol ar gyfer 2017/18 a lefelau Treth Y Cyngor.
Amlygodd y Cynghorydd Aaron Shotton y pwysigrwydd o gynghorau yng Nghymru yn parhau i lobio Llywodraeth Cymru ar y cyd i gael cyllid tecach ac i Sir Y Fflint i wneud yr achos ymysg y rheiny gyda safle a ariennir yn isel. Roedd tybiaethau rhesymol wedi cael eu gwneud ar gyllid grant a gwnaethpwyd gyfeiriad at bosibilrwydd toriadau cyllid ‘cudd’ gan Llywodraeth DU a fyddai’n effeithio Cymru.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Richard Jones, dywedodd y Prif Weithredwr y byddai’r gwaith yn parhau ar ddatblygu’r MTFS, fodd bynnag roedd yn anochel na fyddai’r bwlch cyllideb a ragwelwyd yn cael ei ddiwallu heb effeithio ar wasanaethau rheng flaen. Roedd hyn wedi ei adnabod yn eang yn ystod y broses ymgynghori cyllideb lle'r oedd y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu wedi ystyried yr opsiynau ar gyfer eu meysydd penodol.
PENDERFYNWYD:
Gan ystyried yr adroddiad, bod y Pwyllgor yn hysbysu’r Cabinet ei fod yn cefnogi’r fframwaith ar gyfer diwygio’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.
Awdur yr adroddiad: Gary Ferguson
Dyddiad cyhoeddi: 10/10/2017
Dyddiad y penderfyniad: 13/07/2017
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 13/07/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Dogfennau Atodol: