Manylion y penderfyniad

REVENUE BUDGET MONITORING 2017/18 (MONTH 4)

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Oes

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes

Diben:

To provide the latest revenue budget monitoring position for 2017/18 for the Council Fund and Housing Revenue Account (based on actual income and expenditure as at Month 4 projected forward to year-end).

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad Monitro’r Gyllideb Refeniw 2017/18 (Mis 4) a oedd yn darparu'r sefyllfa ddiweddaraf o ran monitro’r gyllideb refeniw yn 2017/18 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai.  Hwn oedd yr adroddiad monitro llawn cyntaf ar gyfer y flwyddyn ac roedd yn cyflwyno’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol.  Roedd yr adroddiad yn rhagamcanu beth fyddai sefyllfa'r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol pe bai popeth yn aros yn gyfartal.

 

            Y rhagamcan o'r sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn, heb wneud unrhyw beth i ostwng pwysau costau a gwella'r arenillion ar gynllunio arbedion, oedd:

 

Cronfa’r Cyngor

 

·         Rhagwelid y bydd gwariant net yn ystod y flwyddyn £1.256 miliwn yn uwch na’r gyllideb; a

·          Rhagamcanir y bydd balans y gronfa hapddigwyddiad ar 31 Mawrth 2018 yn £3.87miliwn.

 

Cyfrif Refeniw Tai

 

·         Rhagwelid y bydd gwariant net yn ystod y flwyddyn £0.026 miliwn yn uwch na’r gyllideb; a

·         Rhagamcenir y bydd y balans terfynol ar 31 Mawrth 2018 yn £1.090m.

 

Roedd yr adroddiad yn cwmpasu’r rhagamcanion diweddaraf yn ystod y flwyddyn fesul portffolio; olrhain risgiau a materion sy'n dod i'r amlwg yn ystod y flwyddyn; risgiau eraill sy’n cael eu holrhain; risgiau newydd sy’n dod i’r amlwg yn 2017/18; chwyddiant; a chronfeydd wrth gefn a balansau.

 

Ar y Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth, esboniodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod y gorwariant rhagamcanol o £1.910m wedi cynnwys yn rhannol materoli rhywfaint o’r risgiau  arwyddocaol a oedd yn hysbys pan osodwyd cyllideb 2017/18 gan y Cyngor gan gynnwys costau ychwanegol o £0.675m ar ôl ail-gaffael er mwyn cwmpasu amryw o wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus a gostyngiad o £0.111m a gadarnhawyd yn Grant Sengl yr Amgylchedd.  Rhestrwyd amrywiadau pellach yn yr adroddiad ac roedd y sefyllfa net ar y gorwariant rhagamcanol yn ddiffyg gweithredol net o £0.569m.  Roedd amrywiadau mawr yn effeithio ar y diffyg gweithredol hwnnw hefyd yn cael eu nodi yn yr adroddiad ac roedd gwaith ar y gweill i asesu unrhyw effaith posibl ar yr amrywiadau hynny yn y flwyddyn ar y rhagolwg Strategaeth Ariannol Tymor Canolig ar gyfer 2018/19.

 

Yn dilyn adolygiad o wasanaethau yn y Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion, credwyd y byddai’n briodol ceisio cymeradwyaeth ar gyfer adlinio’r gyllideb rhwng rhai meysydd Pobl H?n, a oedd yn adlewyrchu tanwariant ar hyn o bryd, a Dysgu ac Anableddau, lle roedd y galw yn uchel.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r adroddiad cyffredinol a’r swm wrth gefn a ragamcanwyd ar gyfer Cronfa’r Cyngor ar 31 Mawrth 2018;

 

(b)       Nodi'r lefel derfynol o falansau a ragwelwyd yn y Cyfrif Refeniw Tai (CRT);

 

(c)        Cytuno ar drosglwyddiad cyllideb yn y Gwasanaethau Cymdeithasol er mwyn adlinio’r gyllideb i ddiwallu anghenion y gwasanaeth; a

 

(d)       Cymeradwyo dyraniad o £0.052m o’r gronfa hapddigwyddiad er mwyn darparu cefnogaeth ariannol i gwmpasu pwysau disgwyliedig ar y gyllideb yn ystod blwyddyn 2017-18 o ran strwythurau datblygu economaidd rhanbarthol a chefnogaeth i ddigwyddiadau.

Awdur yr adroddiad: Jonathan M Davies

Dyddiad cyhoeddi: 16/04/2018

Dyddiad y penderfyniad: 26/09/2017

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 26/09/2017 - Cabinet

Yn effeithiol o: 05/10/2017

Dogfennau Atodol: