Manylion y penderfyniad
Landfill Management and Gas Engine Maintenance Contract
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To seek approval for the Commissioning Form for Landfill Maintenance and Gas Engine Management as required by the Contractural Procedure Rules.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Kevin Jones adroddiad Contract Rheoli Tirlenwi a Chynnal a Chadw Peiriannau Nwy.
Roedd y Cyngor yn berchen ar ddau safle tirlenwi gweithredol yn Ystâd Ddiwydiannol Standard ac Ystâd Ddiwydiannol Brookhill ym Mwcle, a cheisiwyd cymeradwyo’r Ffurflen Gomisiynu fyddai’n caniatáu i’r gwasanaeth gaffael un cyflenwr i gynnal a chadw tirlenwi cyffredinol a rheoli’r safle peiriannau nwy/trwytholch.
Eglurodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) bod manylion cwmpas y contract arfaethedig wedi’i amlinellu yn yr adroddiad. Byddai’r contract newydd yn amddiffyn cyllidebau ac yn adfer pwysau yn y dyfodol gan weithrediadau’r ddau safle tirlenwi. Byddai’r cynigion yn sicrhau bod y Cyngor yn rheoli’r ased yn y ffordd fwyaf ecogyfeillgar a byddai’n amddiffyn y Cyngor rhag amrywiadau yn y lefelau cynhyrchu ynni yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r Ffurflen Gomisiynu ar gyfer Rheoli Tirlenwi a Chynnal a Chadw’r Safle Peiriannau Nwy a Thrwytholch, yn ôl gofynion Rheolau'r Weithdrefn Gontractau.
Awdur yr adroddiad: Steve Jones
Dyddiad cyhoeddi: 21/06/2017
Dyddiad y penderfyniad: 14/03/2017
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 14/03/2017 - Cabinet
Yn effeithiol o: 23/03/2017
Dogfennau Atodol: