Manylion y penderfyniad

Transfer of Regional Growth Deal to Corporate Joint Committee

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws y Penderfyniad: For Determination

Is KeyPenderfyniad?: Oes

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw

Diben:

To provide an update on the Regional Transport Plan as developed through the Wales Corporate Joint Committee.

Penderfyniad:

(a)       Bod y Cabinet yn cytuno i ymrwymo i Gytundeb Partneru a Chyllido (Atodiad 2) lle bydd rôl y Corff Atebol, cyfrifoldeb am gyflawni Bargen Twf Gogledd Cymru a threfniadau ariannu’r Cynllun Twf yn cael eu trosglwyddo i Gydbwyllgor Corfforaethol Gogledd Cymru ar neu cyn 31 Mawrth 2025;

 

(b)       Bod y Cabinet yn cytuno i drosglwyddo ac aseinio yn ôl yr angen y ddarpariaeth o Fargen Twf Gogledd Cymru a hawliau a rhwymedigaethau yn yr holl gytundebau ariannu sy’n dod i mewn a ddelir gan Gyngor Gwynedd fel Corff Atebol ar ran Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (“NWWEAB”) i drosglwyddo i Gydbwyllgor Corfforaethol Gogledd Cymru (“NWCJC”);

 

(c)       Bod y Cabinet yn cytuno i drosglwyddo neu aseinio'r holl fuddiannau yn y portffolio o brosiectau a ariennir gan Fargen Twf Gogledd Cymru ynghyd ag unrhyw gytundebau, taliadau a phrydlesau ategol oddi wrth Gyngor Gwynedd fel Corff Atebol ar ran NWEAB i NWCJC;

 

(d)       Bod y Cabinet yn cytuno i drosglwyddo a/neu aseinio'r holl falansau ariannol, arian sy'n ddyledus ac asedau a ddelir ar ran Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru gan Gyngor Gwynedd i'r NWCJC;

 

(e)       Bod y Cabinet yn dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â’r Swyddog Monitro, Swyddog Adran 151 ac Arweinydd y Cyngor, i gytuno a gweithredu’r ffurf derfynol cytundebau, gweithredoedd a’r holl ddogfennau cyfreithiol eraill sy’n angenrheidiol i weithredu’r trosglwyddiadau y cyfeirir atynt ym mhenderfyniad (a), (b) ac (c) uchod;

 

(f)        Ar ôl cwblhau'r Cytundeb Partneriaeth a Chyllido, bod y Cabinet yn cytuno i derfynu'r cytundeb GA2 a dirwyn Cyd-bwyllgor Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i ben; a

 

(g)       Bod y Cabinet yn cytuno i drosglwyddo atebolrwydd i’r CJC a bod y CJC yn derbyn cyfrifoldeb am wneud penderfyniadau ar gyfer gweithredu Cynllun Twf Gogledd Cymru yn amodol ar drosglwyddo’r Cynllun Twf a chymeradwyo Rheolau Sefydlog ychwanegol yn ymgorffori telerau allweddol y Cytundeb Cydweithio (“GA2”) rhwng y chwe Chyngor Cyfansoddol a’r pedwar parti Addysg.

Awdur yr adroddiad: Gareth Owens

Dyddiad cyhoeddi: 19/03/2025

Dyddiad y penderfyniad: 18/03/2025

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 18/03/2025 - Cabinet

Dogfennau Atodol: