Manylion y penderfyniad
Cofnodion
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Penderfyniadau:
Cyfeiriodd y Cynghorydd Ellis at dudalen 8 y cofnodion lle’r oedd y Cynghorydd Paul Johnson wedi gofyn am gael gwneud diwygiad bach i’r argymhelliad a gofynnodd a oedd yr Aelodau wedi cael rhestr o’r gwasanaethau a oedd yn ofynnol gan Lywodraeth Cymru, gan na fyddai pawb wedi bod yn ymwybodol o beth oeddent. Eglurodd nad oedd yn gweld y wybodaeth yn y papurau ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod a dywedodd os oedd argymhelliad am gael ei newid, dylai fod yr Aelodau wedi cael y wybodaeth ofynnol. Dywedodd yr Hwylusydd ei fod yn wahoddiad gan y Cynghorydd Johnson i’r Aelodau gyflwyno unrhyw syniadau yn dilyn y cyfarfod. Cadarnhaodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yng nghyd-destun y cynigion a adroddwyd i’r Pwyllgor y tro diwethaf, y gwahoddwyd yr Aelodau i awgrymu syniadau yngl?n ag arbedion cyllideb ar draws yr holl Bwyllgorau Craffu, ond roedd yn deall pwynt y Cynghorydd Ellis, sef bod y Gwasanaethau Cymdeithasol yn wasanaeth cymhleth iawn ac yn ymateb i gyfrifoldebau statudol yn bennaf, gan wneud arbedion yn anodd iawn i’w canfod, ond ei bod yn syniad da i fod yn agored i unrhyw awgrymiadau. Mewn ymateb i’r Cynghorydd Bateman, a oedd yn cytuno gyda sylwadau’r Cynghorydd Ellis, gofynnodd y Cadeirydd i’r Prif Swyddog roi mwy o wybodaeth am waith statudol ac anstatudol. Dywedodd y Prif Swyddog bod mwyafrif sylweddol o ddarpariaeth Gwasanaethau Cymdeithasol yn statudol ac fe awgrymodd, cyn i’r trafodaethau am y gyllideb ddod i ben, y byddai eglurhad yn cael ei roi o ran pa feysydd gwasanaeth oedd yn gwbl statudol, ac fe groesawyd hyn gan yr Aelodau.
Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Hydref 2023, fel y’u cynigiwyd a’u heiliwyd gan y Cynghorwyr Dave Mackie a Mel Buckley.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir.
Dyddiad cyhoeddi: 22/03/2024
Dyddiad y penderfyniad: 07/12/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 07/12/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Accompanying Documents: