Manylion y penderfyniad
Sheltered Housing Review
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To approve to undertake a Sheltered Housing Review.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Bibby yr adroddiad a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am adolygiad tai gwarchod y Cyngor, y fethodoleg a’r matrics sgorio arfaethedig a’r cynllun cyfathrebu ac ymgysylltu.
Roedd stoc tai Cyfrif Refeniw Tai y Cyngor yn cynnwys tua 7,300 o eiddo ac yr oedd tua 2,500 o’r rheini’n cael eu hystyried yn stoc tai gwarchod. Gan fod safonau yn y dyfodol yn cynyddu o ran Safonau Ansawdd Tai Cymru, uchelgais Llywodraeth Cymru o ran datgarboneiddio, yr angen i sicrhau bod eiddo gwarchod yn parhau i ddiwallu anghenion deiliaid contract a'r costau sy'n gysylltiedig â buddsoddi a chynnal a chadw yn y dyfodol, yr oedd angen i’r Cyngor sicrhau yn awr bod unrhyw wariant yn y dyfodol yn cael ei ddyrannu'n briodol. Y dewisiadau ar gyfer yr asedau gwarchod hynny yr ystyriwyd bod angen buddsoddiad sylweddol arnynt i gydymffurfio â safonau presennol ac yn y dyfodol neu nad oeddent bellach yn bodloni anghenion deiliaid contract, oedd ailddynodi i anghenion cyffredinol, adnewyddu neu ddymchwel.
Byddai’r adolygiad yn mabwysiadu ymagwedd gyfannol at gynaliadwyedd y stoc tai gwarchod ac yn adolygu pob cynllun o safbwynt rheoli asedau i nodi anghenion buddsoddi presennol ac yn y dyfodol pob cynllun, gwaith Safon Ansawdd Tai Cymru ac ystyriaethau datgarboneiddio a chydymffurfio.
Byddai'r wybodaeth honno'n cyd-fynd â gwybodaeth rheoli tai a fyddai'n adolygu ac yn asesu galw / trosiant a dymunoldeb i bennu cynaliadwyedd pob cynllun. Byddai pob cynllun yn cael ei asesu yn erbyn matrics cynaliadwyedd ynghyd â phedwar argymhelliad posib, ac yr oedd pob un wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad.
Roedd yn bwysig i'r Cyngor sicrhau bod ei gynnig i ddeiliaid contract tai gwarchod presennol, a darpar ddeiliaid contract tai gwarchod, yn ddeniadol, yn gystadleuol ac yn bodloni disgwyliadau a dyheadau cyfredol. Roedd sawl blwyddyn ers i'r Cyngor adolygu ei gynnig i ddeiliaid contract tai gwarchod ddiwethaf ac yr oedd yn amserol bod y cynnig yn cael ei ddiweddaru.
Dywedodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau), yn dilyn adroddiad i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Thai ym mis Mawrth 2023, y gofynnwyd am sefydlu Gr?p Tasg a Gorffen Adolygu Tai Gwarchod. Roedd y gr?p hwnnw wedi cyfarfod deirgwaith i ystyried y Cylch Gorchwyl, y Matrics Sgorio a'r Cynllun Cyfathrebu ac Ymgysylltu. Roedd y Matrics Sgorio a'r Cynllun Cyfathrebu ac Ymgysylltu wedi'u nodi yn yr adroddiad a oedd hefyd wedi'u hystyried a'u cefnogi yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Thai yr wythnos flaenorol.
PENDERFYNWYD:
(a) Cefnogi’r fethodoleg a gynigir i asesu asedau tai gwarchod y Cyngor;
(b) Cefnogi’r cynllun cyfathrebu ac ymgysylltu a gynigir i asesu asedau tai gwarchod y Cyngor; a
(c) Cefnogi'r gwaith asesu yn y dyfodol ar asedau tai gwarchod a symud ymlaen i'r cam gwerthuso dewisiadau pe bai pryderon buddsoddi yn cael eu hamlygu trwy ei adolygiad manwl.
Awdur yr adroddiad: Jen Griffiths
Dyddiad cyhoeddi: 11/09/2024
Dyddiad y penderfyniad: 19/12/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 19/12/2023 - Cabinet
Yn effeithiol o: 05/01/2024
Dogfennau Atodol: