Manylion y penderfyniad
Feedback from the Independent Members' visits to Town and Community Councils
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Safonau
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad a oedd yn crynhoi’r themâu cyffredin oedd yn codi gan Aelodau Annibynnol y Pwyllgor a oedd yn arsylwi cyfarfodydd y Cynghorau Tref a Chymuned dros y 12 mis diwethaf. Roedd yr adroddiad yn pwysleisio’r pwrpas ar gyfer yr ymweliadau ac yn cynnwys adborth ysgrifenedig a rannwyd gyda chynghorau yn ystod y cyfnod.
Mewn ymateb i gwestiwn, darparodd y Swyddog Monitro eglurder ar y datganiadau o gysylltiad. Eglurwyd y byddai goddefebau yn gallu para am uchafswm o 12 mis. Gan mai dim ond y cynghorydd a wnaeth gais am yr oddefeb a fyddai’n gwybod os yw’r cysylltiad personol sy’n rhagfarnu yn parhau, mae’r cyfrifoldeb arnyn nhw i geisio adnewyddu unrhyw oddefeb.
Diolchwyd i’r Cynghorau Tref a Chymuned am groesawu’r Aelodau Annibynnol i’r cyfarfodydd.
Awgrymodd y Cadeirydd y gallai enghreifftiau o arferion cadarnhaol yn y cyfarfodydd gael eu hadlewyrchu yn yr adroddiad. Ar sail hynny, cynigwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan Mark Morgan a’r Cynghorydd Teresa Carberry.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod yr adroddiad yn cynnwys enghreifftiau o arferion da a arsylwyd yn y cyfarfodydd; a
(b) Bod yr adroddiad yn cael ei rannu â holl Gynghorau Tref a Chymuned yn Sir y Fflint a bod yr awgrymiadau a themâu cyffredin ym mharagraff 1.04 yr adroddiad yn cael eu cefnogi fel argymhellion o arferion da i’r cynghorau hynny.
Dyddiad cyhoeddi: 05/02/2024
Dyddiad y penderfyniad: 06/11/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 06/11/2023 - Pwyllgor Safonau
Dogfennau Atodol: