Manylion y penderfyniad
Annual Governance Statement 2022/23
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To endorse the Annual Governance Statement for 2022/23.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg y Datganiad Llywodraethu Blynyddol ar gyfer 2022/23 oedd yn rhoi sicrwydd am drefniadau llywodraethu a rheoli risg, i gyd-fynd â’r Datganiad Cyfrifon. Roedd yr adroddiad yn manylu’r broses ar gyfer paratoi’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol yn ymwneud â gweithdy herio gyda’r Pwyllgor a holiadur a gafodd ei rannu gyda Chadeiryddion Trosolwg a Chraffu a’r Cabinet. Cyflwynwyd y Pwyllgor i Emma Heath hefyd, sydd newydd ei phenodi fel Ymgynghorydd Perfformiad Strategol.
Yn dilyn cwestiwn gan y Cadeirydd, cadarnhawyd bod yr adroddiad canol blwyddyn ar gynnydd yn erbyn meysydd i’w gwella wedi’i drefnu ar gyfer mis Tachwedd.
Mewn ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Allan Marshall ar y cyfeiriad at safonau, eglurwyd er na chafodd y rhain eu dogfennu, roeddent yn adlewyrchu dyheadau’r Cyngor ac yn cael eu hymgorffori i nifer o bolisïau allweddol. Cytunodd y swyddogion i ddiwygio’r cyfeiriad at y sefydliad fel un ‘darbodus’ i egluro bod hyn yn ymwneud â gwydnwch y gweithdy.
O ran y safonau perfformiad, cododd y Cynghorydd Marshall bryderon ynghylch yr amser a gymerwyd i gysylltu â swyddogion Tai dros y ffôn. Rhannodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) wybodaeth am y safonau a fabwysiadwyd gan y Ganolfan Cyswllt Cwsmeriaid a oedd yn amodol ar fonitro perfformiad. Gofynnodd i’r Cynghorydd Marshall gysylltu ag ef yn uniongyrchol fel bod modd iddo olrhain y pryderon.
Cafodd yr argymhellion eu cynnig gan y Cynghorydd Bernie Attridge a’u heilio gan y Parch Brian Harvey.
PENDERFYNWYD:
Bod Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2022/23 yn cael ei atodi i’r Datganiad Cyfrifon ac argymell i’r Cyngor ei fod yn eu mabwysiadu.
Awdur yr adroddiad: Lisa Brownbill
Dyddiad cyhoeddi: 04/08/2023
Dyddiad y penderfyniad: 14/06/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 14/06/2023 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
Dogfennau Atodol: