Manylion y penderfyniad

How to become a Micro Carer

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To raise awareness of the Micro Care initiative.

Penderfyniadau:

Rhoddodd y Swyddog Cynllunio a Datblygu gefndir i’r adroddiad gan nodi, yn dilyn cwblhau’r prosiect peilot yn llwyddiannus - a ariannwyd trwy’r Economi Sylfaenol, Cadwyn Clwyd a Sir y Fflint i gefnogi mentrau bach neu fasnachwyr unigol i ddarparu gofal personol uniongyrchol a gwasanaeth lles ehangach yn Sir y Fflint - cafwyd cyllid ychwanegol trwy Gronfa Her yr Economi Sylfaenol Llywodraeth Cymru i alluogi datblygu Meicro-Ofal yn wasanaethau sefydledig y gellid eu cynnig.

 

Rhoddodd amlinelliad cryno o’r camau amrywiol ar sut i ddod yn Feicro-Ofalwr cyn cyflwyno’r Meicro-Ofalwr cyntaf a gomisiynwyd - Nat Swift i rannu ei brofiad o fod yn Feicro-Ofalwr.   Eglurodd mai ei ffrind oedd wedi awgrymu ei fod yn dod yn Feicro-Ofalwr wrth ei helpu i ofalu am ei dad.   Ar ôl cysylltu â Sir y Fflint, dechreuodd weithio fel Meicro-Ofalwr yn 2022 a gofynnwyd iddo a hoffai ddilyn y llwybr a Gomisiynwyd, gan nodi fod y mwyafrif o’i waith yn Sir y Fflint.   Roedd ganddo tri chleient yn Wrecsam a oedd wedi’u comisiynu’n breifat a heb gael eu rhoi iddo drwy Gyngor Wrecsam yn wahanol i gleientiaid Sir y Fflint a oedd yn gyfuniad o gleientiaid preifat, cleientiaid a gomisiynwyd gan Sir y Fflint a chleientiaid taliadau uniongyrchol.   Y gwahaniaeth rhwng Meicro-Ofalwr a gweithiwr Asiantaeth Gofal oedd yr amrywiaeth o gefnogaeth a allai Meicro-Ofalwr ei roi drwy gymryd mwy o ran ym mywydau’r cleientiaid a’u bod yn gallu darparu ystod ehangach o wasanaethau, o ofal emosiynol a chorfforol i ofal domestig a chlercyddol.

 

Pan ofynnwyd gan y Cadeirydd am yr atgyfeiriadau, dywedodd wrth yr Aelodau ei fod un ai’n cael ei gomisiynu gan Sir y Fflint, yn derbyn argymhellion drwy GOGDdC neu fod pobl yn cysylltu ag ef ar ôl gwneud chwiliadau ar y rhyngrwyd ond roedd yn derbyn fwyfwy o argymhellion drwy atgyfeiriadau gan Feicro-Ofalwyr eraill.

 

            Mewn ymateb i ymholiad y Cynghorydd Gladys Healey o ran diogelu, dywedodd fod yn rhaid i’r holl Feicro-Ofalwyr fynd drwy broses recriwtio a datblygu busnes a’i fod hefyd yn derbyn gwybodaeth a chefnogaeth fel aelod o NACAS (Cymdeithas Genedlaethol Gweithwyr Gofal a Chymorth).   Rhoddodd Sir y Fflint a Wrecsam gyngor a chymorth hefyd ar bolisïau, gweithdrefnau a chanllawiau yr oedd wedi teilwra ei fusnes ei hun ohonynt.   Yn nhermau diogelu, dywedodd fel Meicro-Ofalwr a gomisiynwyd, roedd yn rhaid iddo gael yswiriant indemniad proffesiynol ac yswiriant atebolrwydd cyhoeddus a oedd yn cael ei ariannu gan Sir y Fflint am hyd at chwe blynedd wrth i’w fusnes ddatblygu.   Yn ogystal, roedd y broses hyfforddiant yn cynnwys agweddau amrywiol, e.e. gweithio ar eich pen eich hun, asesiadau risg, codi a symud yn gorfforol, hylendid bwyd ac ati, a oedd yn bwydo i mewn i bolisïau a oedd gan bob Meicro-Ofalwr.  Roedd gan Sir y Fflint Raglen ar gyfer Monitro Ansawdd hefyd lle’r oedd yn cael ei asesu yn barhaus.  Roedd yn cadw cofnod dyddiol o ddigwyddiadau ar gyfer pob cleient hefyd.

 

            Dywedodd y Swyddog Cynllunio a Datblygu wrth yr Aelodau am ymgyrch ‘Indeed’ ym mis Ionawr ac ymgysylltiad gyda GOGDdC drwy eu newyddlen a gafodd ei ddarparu ar draws yr ardal gyda’r brif ffynhonnell o ymholiadau yn dod drwy glywed gan eraill, mewn ymateb i’r Cynghorydd Mackie a ofynnodd sut yr oeddent yn derbyn 25 o ymholiadau mewn mis.

 

Ychwanegodd, fel rhan o’u cyllid, eu bod yn mynychu cyfarfodydd chwarterol gyda Llywodraeth Cymru.   Trwy hyn, bu iddynt gysylltu â nhw ar nifer o ddeddfwriaethau ac roedd ganddynt fwy o ddiddordeb mewn sgyrsiau ehangach i ddatblygu sefyllfa Genedlaethol fel bod modd safoni gofal ar draws Cymru pan gwestiynodd y Cynghorydd Mackie am gyfranogiad Llywodraeth Cymru.

 

            Ymatebodd Nat Swift i gwestiwn y Cadeirydd ynghylch beth fyddai’n digwydd pe bai’n mynd i ffwrdd ar absenoldeb salwch drwy ddweud ei fod yn dibynnu ar berthnasau cleientiaid unigol gan y byddai gan bob cleient gynllun wrth gefn wedi’i bersonoli gydag amrywiaeth o gysylltiadau y gellid cysylltu â nhw yn ei absenoldeb.   Ychwanegodd nad oedd gan bob un o’i ddyletswyddau derfyn amser yn ei brofiad ef fel ei fod yn gallu gweithio o amgylch gofal gyda’r cleient yn enwedig os oedd ganddo apwyntiad personol.   Ar hyn o bryd roeddent yn gobeithio datblygu system cyfeillion.

 

            Pan ofynnwyd sut yr oeddent yn ymdrin â chwynion, dywedodd ei fod yn dibynnu ar natur y g?yn.   Os oedd y g?yn o natur droseddol, yna byddai’n cael ei basio ymlaen i’r awdurdodau perthnasol ond dywedodd bod ganddynt bolisïau a gweithdrefnau cwynion ar waith ac os nad oedd yn gallu eu datrys byddant yn cael eu pasio ymlaen i’r tîm Meicro-Ofal.

 

Cynigiwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Gladys Healey ac eiliwyd gan y Cynghorydd Rob Davies.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r diweddariad ar y prosiect Meicro-Ofal yn Sir y Fflint i roi dealltwriaeth o’r broses i ddod yn Feicro-Ofalwr.

Awdur yr adroddiad: Emma Cater

Dyddiad cyhoeddi: 15/05/2023

Dyddiad y penderfyniad: 02/03/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 02/03/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Accompanying Documents: