Manylion y penderfyniad

Update on Children’s residential care

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To receive an update on Children's residential care.

Penderfyniadau:

Rhoddodd yr Uwch Reolwr (Plant a’r Gweithlu) gefndir i’r adroddiad drwy gyfeirio yn ôl at drafodaeth a gafwyd y llynedd ar strategaeth o’r enw ‘Gofal yn Nes at y Cartref’ sy’n nodi eu huchelgais i ddatblygu pump Cartref Gofal Preswyl mewnol i Blant o ansawdd uchel er mwyn cefnogi Plant sydd angen gofal preswyl lleol.   Bu iddo gyflwyno’r Rheolwr Cofrestredig Adnoddau a Gwasanaethau Rheoledig a roddodd fwy o fanylion fel y nodir yn yr adroddiad ar y cartrefi a restrir isod:-

 

·                T? Nyth – Cartref cofrestredig gyda therapi aml systemig i gefnogi’r gwaith o aduno teuluoedd

·                Y Dderwen – Cartref cofrestredig sy’n darparu sefydlogrwydd lleoliad hirdymor

·                Mesen Fach – fflat mewn argyfwng sy’n cynnig lleoliadau byrdymor mewn achosion brys

·                Cartrefi Gr?p Bach sy’n cefnogi 1 neu 2 o blant mewn lleoliadau pwrpasol yn y gymuned

 

Bu iddo gadarnhau eu bod ar amser i agor ar y dyddiadau a nodir yn yr adroddiad a’u bod wedi bod yn llwyddiannus o ran recriwtio staff.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Owen os byddai grwpiau o frodyr a chwiorydd yn cael eu cymysgu gyda phlant eraill yn T? Nyth ac mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Cofrestredig Adnoddau a Gwasanaethau Rheoledig bod cael y broses baru yn iawn yn allweddol i lwyddiant, p’un ai ei fod yn gymysgedd gyda gr?p o frodyr a chwiorydd neu gyda phlant unigol.   Bydda’r effaith yn sylweddol ar bob un o’r pedwar plentyn os byddai’r broses baru yn anghywir.   Fodd bynnag, rhai o’r pwyntiau dysgu a gododd oedd ei fod yn well pe na bai’r pedwar plentyn yn symud i mewn ar yr un pryd a dylid gweithio gyda nhw mewn gwahanol leoliadau.   Yn ddelfrydol dylai’r plentyn cyntaf symud i mewn i ddechrau’r rhaglen 12 wythnos wedyn y tri phlentyn arall bob pedair wythnos, ac erbyn hynny bydd y plentyn cyntaf yn trosglwyddo yn ôl i amgylchedd ei gartref.

 

Mewn ymateb i’r Cynghorydd Mackie, dywedodd y Rheolwr Cofrestredig Adnoddau a Gwasanaethau Rheoledig eu bod wedi’u cyfyngu i nifer y plant y gallant eu cefnogi ond ei fod yn bwysig eu bod yn hyfforddi ac yn cefnogi’r staff cywir gan mai nhw a fyddai’n gwneud newidiadau sylweddol i’r plant.   Ychwanegodd yr Uwch Reolwr (Plant a’r Gweithlu) mewn perthynas â lleoliadau y tu allan i’r sir sydd eisoes yn y system, byddant yn dod i ben yn raddol dros y tair blynedd nesaf gan y byddai’n dal angen cefnogi’r plant.   Nid oedd y costau mewnol o reidrwydd yn rhatach gan ei fod ar gyfartaledd yn costio £500,000 i redeg cartref 4 ystafell wely oherwydd costau cyffredinol staff, yswiriant a bwyd ac ati.   Y pwyntiau cadarnhaol oedd bod y gwasanaeth yn gallu rheoli ansawdd y gofal wrth baratoi pobl ifanc ar gyfer bod yn oedolion.

 

Cafodd yr argymhelliad yn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd Paul Cunningham a’i eilio gan y Cynghorydd Debbie Owen

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd i ddatblygu’r gofal preswyl mewnol fel rhan o’r strategaeth Gofal yn Nes at y Cartref.

Awdur yr adroddiad: Emma Cater

Dyddiad cyhoeddi: 15/05/2023

Dyddiad y penderfyniad: 02/03/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 02/03/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Accompanying Documents: