Manylion y penderfyniad

Cultivating social work and occupational therapy students 'growing our own'

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To receive a report on the development of Social Workers and Occupational Therapists from within the workforce.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Rheolwr Datblygu’r Gweithlu yr adroddiad drwy nodi bod gofal cymdeithasol yn dod yn fwy heriol gan fod pobl yn awr yn cyflwyno ag anghenion iechyd a gofal cymdeithasol mwy cymhleth a beichus.   Pwysleisiodd fod gan y Gwasanaethau Cymdeithasol weithlu cadarn a sefydlog a oedd yn allweddol i ddarparu arfer o ansawdd uchel, effeithiol a chyson i’r rheiny a oedd ei angen ac roedd buddsoddi mewn datblygiad o fewn y gweithlu yn helpu i wneud i weithwyr deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a oedd yn cynyddu cymhelliant ac yn gwella’r synnwyr o foddhad yn y swydd.   Eglurodd bod y gwasanaeth yn derbyn grant gan Gofal Cymdeithasol Cymru bob blwyddyn o’r enw Grant Rhaglen Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru a oedd wedi cael ei adolygu’n ddiweddar ac wedi cynyddu’r Cynnig Gwaith Cymdeithasol i Awdurdodau Lleol.

 

Bu i’r Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) longyfarch y Rheolwr Datblygu’r Gweithlu a’r tîm am y ffordd greadigol a wnaethant ddatblygu’r gweithlu yn llwyddiannus o fewn y portffolio, gan nodi nad oedd unrhyw swyddi gwag ar gyfer Therapyddion Galwedigaethol na Gweithwyr Cymdeithasol i Oedolion ar hyn o bryd a’u bod mwy neu lai wedi’u staffio’n llawn ar gyfer gweithwyr Gofal Plant Preswyl.   Fodd bynnag, roedd problemau a wyddir amdanynt o fewn Gwaith Cymdeithasol Plant yr oedd yr Uwch Reolwr (Plant a’r Gweithlu) a’r tîm yn gweithio drwyddynt.

 

Mewn ymateb i sylw gan y Cynghorydd Mackie, dywedodd yr Uwch Reolwr Oedolion eu bod wedi cymryd rhai mentrau gydag Ysgolion Uwchradd lleol o fewn eu Cyrsiau Iechyd a Gofal Cymdeithasol a gynhaliwyd yn lleol ac wedi rhoi sgyrsiau ar sut beth yw bod yn Weithiwr Cymdeithasol a oedd wedi ysbrydoli nifer o fyfyrwyr i fynd ag ef ymhellach.   Yn ogystal, roeddent yn mynd i Brifysgol Glyndwr yn rheolaidd i hyrwyddo’r rôl.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Gladys Healey os oedd pobl yn cael eu recriwtio o leiafrifoedd gwahanol fel bod Gweithwyr Cymdeithasol yn gallu deall y gwahanol ddiwylliannau.   Mewn ymateb, cadarnhaodd yr Uwch Reolwr - Diogelu a Chomisiynu fod Timau Gwaith Cymdeithasol ar draws Sir y Fflint yn cynrychioli amrywiaeth Sir y Fflint a bod ganddynt nifer o bobl o wahanol gefndiroedd ethnig a chymunedau Dwyrain Ewrop ac yr un mor bwysig, Gweithwyr Cymdeithasol sy’n siarad Cymraeg.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Wren os oedd ymgeiswyr mwy aeddfed gyda sgiliau bywyd perthnasol yn cael eu heithrio o’r Cynllun Hyfforddiant Therapi Galwedigaethol, o ystyried y cymwysterau a restrir yn 1.06 o’r adroddiad.   Mewn ymateb eglurodd yr Uwch Reolwr - Diogelu a Chomisiynu, fel cwrs gradd, roedd y broses ymgeisio yn cael ei rheoli gan y Brifysgol ond roedd cymorth hefyd yn cael ei gynnig i unigolion i ymgymryd â chwrs mynediad fel y gallant wedyn fynd ymlaen i gael mynediad at y cwrs gradd.  Bu iddi hefyd gadarnhau nad oedd unrhyw wahaniaethu yn y broses ymgeisio a bod Sir y Fflint yn ariannu’r Cwrs Sylfaen yn ogystal â’r ddwy flynedd ychwanegol.

 

Cafodd yr argymhelliad yn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd Mackie a’i eilio gan y Cynghorydd Wren.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cydnabod ac yn cefnogi’r ymdrech a wnaed i feithrin a datblygu myfyrwyr gwaith cymdeithasol a therapi galwedigaethol o fewn y Cyngor.

Awdur yr adroddiad: Emma Cater

Dyddiad cyhoeddi: 15/05/2023

Dyddiad y penderfyniad: 02/03/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 02/03/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Accompanying Documents: