Manylion y penderfyniad

Double Click

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To receive an update on services provided by Double Click social enterprise.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer Plant ag Anableddau ac Oedolion o dan 65 oed yr adroddiad, gan ddweud wrth yr Aelodau bod Menter Gymdeithasol Double Click yn cefnogi pobl â phroblemau iechyd meddwl gyda chyflawniad galwedigaethol. Eglurodd ei fod yn gynllun gwaith Gwasanaethau Cymdeithasol yn flaenorol ond ei fod wedi ei drawsnewid yn Fenter Gymdeithasol yn 2016 a’u bod wedi’u lleoli yn Rowley’s Drive yn Shotton a’u bod yn darparu gwasanaethau dylunio ac argraffu i’r cyhoedd ac yn cynnig hyfforddiant a chymwysterau cyflogaeth i dros 20 o bobl â phroblemau iechyd meddwl ar unrhyw un adeg. Cyflwynodd Andy Lloyd-Jones, Rheolwr Cyffredinol Double Click, a oedd yn y cyfarfod i ateb unrhyw gwestiynau gan yr Aelodau.

 

Dywedodd y Cadeirydd wrth yr Aelodau y byddent i gyd yn cael canllaw cynnyrch a chalendr fel sampl o'u gwaith a gynhyrchwyd gan gyn-hyfforddai a oedd bellach yn wirfoddolwr ac roedd wedi mentora dau hyfforddai mewn ffotograffiaeth yn Double Click. Ychwanegodd ei bod wedi ei syfrdanu mewn ymweliad diweddar gan y cynnydd yn hyder rhai o'r bobl.

 

Cyfaddefodd y Cynghorydd Mackie nad oedd yn meddwl y byddai Double Click yn gweithio pan ddarllenodd y cynllun busnes nifer o flynyddoedd yn ôl ond ei fod wedi cael ei brofi'n anghywir a chytunodd eu bod yn gwneud gwaith gwych.

 

Gan ymateb i bryder gan y Cynghorydd Mackie, cadarnhaodd y Rheolwr Cyffredinol fod nifer o fusnesau o'r enw 'Double Click' ond nad oedd am newid yr enw gan fod y bobl sy'n eu defnyddio yn fusnesau lleol ffyddlon ac yn ogystal â bod yn fusnes masnachol, roeddent hefyd yn uned cymorth hyfforddi a datblygu.  Ychwanegodd fod incwm wedi cynyddu bob blwyddyn ers iddo ddechrau yn 2016 hyd yn oed yn ystod y pandemig ac roedd yn falch iawn ohono. Ychwanegodd fod cyflwyno hyfforddiant ar-lein yn ystod y cyfnod hwnnw yn beth cadarnhaol ac roedd yn rhywbeth yr oeddent yn gobeithio ei gyflwyno eto yn y dyfodol a fyddai o fudd i bobl a oedd yn rhy bryderus i fynd allan. Croesawodd unrhyw Aelodau i ymweld â nhw i weld y gwaith yr oeddent yn ei wneud.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Owen sut i gyfeirio pobl at Double Click, a, gan ymateb, dywedodd y Rheolwr Cyffredinol mai'r pwynt cyswllt cyntaf oedd Alison Adams cyn i bobl gael eu cyfeirio am gyfarfod anffurfiol gyda Double Click i wneud yn si?r bod Double Click yn iawn i'r unigolyn a bod Double Click yn iawn iddyn nhw ond yn anffodus roedd rhestr aros. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer Plant ag Anableddau ac Oedolion o dan 65 Oed wrth yr Aelodau fod Alison Adams, a oedd yn derbyn atgyfeiriadau ar gyfer Double Click a gwahanol ddewisiadau iechyd meddwl eraill, yn gweithio o fewn Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl i Gyngor Sir y Fflint ac y byddai'n darganfod pa mor hir yw’r rhestr aros a rhoi gwybod i’r Aelodau.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Gladys Healey a oeddent yn recriwtio unigolion sydd wedi gadael yr ysgol heb unrhyw gymwysterau a hyder isel. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer Plant ag Anableddau ac Oedolion o dan 65 Oed fod atgyfeiriadau'n dod drwy'r tîm iechyd meddwl ond bod angen iddynt fod dros 18 oed.  Dywedodd y Rheolwr Cyffredinol wrth y Cadeirydd nad oeddent yn recriwtio prentisiaid.

 

Cynigiwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Linda Thomas ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Robert Davies.

 

          PENDERFYNWYD:

 

Nodi cynnydd a llwyddiant Double Click.

Awdur yr adroddiad: Jo Taylor

Dyddiad cyhoeddi: 28/03/2023

Dyddiad y penderfyniad: 08/12/2022

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 08/12/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Accompanying Documents: