Manylion y penderfyniad

Streetscene Standards Review 2022-23

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Yes

Diben:

To review the existing Streetscene standards and consider a new set of measures and performance indicators that link more closely to the Council Plan, portfolio business plan and policies.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad ac eglurodd fod sawl gwasanaeth wedi cyfuno i greu portffolio Strydwedd a Thrafnidiaeth yn 2012.  Ar y pryd, cymeradwyodd y Cabinet set o Safonau Perfformiad Strydwedd oedd yn ffurfio sail ar gyfer adroddiad perfformiad chwarterol y portffolio newydd. Yna cafodd ei graffu’n ofalus gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a’r Cabinet ar y pryd.  Cafodd y Safonau Strydwedd eu hadolygu ddiwethaf yn 2019 ac ychydig iawn o newid a fu iddynt ers iddynt gael eu llunio.

 

Amlinellodd yr adroddiad y bwriad i adolygu’r Safonau presennol ac argymell newidiadau sy’n cysylltu’n agosach i Gynllun y Cyngor a Chynllun Busnes y portffolio. Roedd yr awdurdod eisiau sicrhau bod y gwasanaeth yn parhau i fodloni anghenion a disgwyliadau’r cyhoedd a phreswylwyr yr oedd yn eu gwasanaethu, gan wneud y defnydd mwyaf effeithlon o’r adnoddau sydd ar gael.

 

Byddai ansicrwydd setliadau ariannol blynyddoedd i ddod, y gofynion sy’n newid o ran yr agenda amgylcheddol a newid hinsawdd a’r angen i ddarparu data perfformiad clir yn dylanwadu ar y ffordd y mae Strydwedd a Thrafnidiaeth yn darparu gwasanaethau dros y blynyddoedd sydd i ddod.  Fel gwasanaeth sydd yn cyffwrdd bywydau pobl o ddydd i ddydd, roedd hi’n hollbwysig arddangos gwerth gwirioneddol i bobl Sir y Fflint, ond hefyd i fesur perfformiad mewn modd sydd yn ystyrlon ac yn galluogi gwelliant parhaus.

 

Fe ychwanegodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Thrafnidiaeth) mai pwrpas yr adroddiad oedd egluro diffygion y ddogfen bresennol a cheisio cefnogaeth gan y Cabinet i Strydwedd a Thrafnidiaeth i adolygu a chefnu ar y Safonau presennol. Byddai hynny o blaid creu cyfres o fetrigau perfformiad mwy cadarn a pherthnasol y gellid eu mesur, monitro ac adrodd amdanynt yn fwy effeithiol.

 

Roedd yr adroddiad wedi cael ei gyflwyno i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Yr Amgylchedd a’r Economi yr wythnos flaenorol lle penderfynwyd y byddai Gr?p Tasg a Gorffen yn cael ei sefydlu i gefnogi adolygu’r Safonau. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r cynnig i gefnu ar ddogfen bresennol Safonau Strydwedd, a chefnogi’r adolygiad arfaethedig i’w disodli gyda chyfres ddiwygiedig o fetrigau perfformiad sy’n ategu safonau gwasanaeth er mwyn mesur perfformiad yn erbyn goblygiadau statudol presennol, Cynllun y Cyngor a pholisïau presennol.  Bydd adroddiad pellach pan fydd yr adolygiad wedi ei gwblhau yn cael ei gyflwyno; a

 

(b)       Bod argymhelliad Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Yr Amgylchedd a’r Economi, sef bod Gr?p Tasg a Gorffen Aelodau yn cael ei sefydlu i gefnogi adolygu Safonau Strydwedd, gyda'r bwriad o gyflwyno adroddiad pellach i’r Pwyllgor Craffu a’r Cabinet yn nes ymlaen yn y flwyddyn, yn amlinellu manylion y broses adolygu unrhyw gasgliadau ac argymhellion dilynol, yn cael eu cefnogi.

Awdur yr adroddiad: Katie Wilby

Dyddiad cyhoeddi: 10/08/2023

Dyddiad y penderfyniad: 14/03/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 14/03/2023 - Cabinet

Yn effeithiol o: 23/03/2023

Accompanying Documents: