Manylion y penderfyniad
Cofnodion
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Penderfyniadau:
Cyfeiriodd y Cynghorydd Dale Selvester at ei gais am ddadansoddiad o ôl-ddyledion biliau d?r ac ôl-ddyledion rhent gan ddweud nad oedd wedi cael y wybodaeth hon. Eglurodd yr Hwylusydd, gan ei bod yn ddiwedd blwyddyn ariannol ac oherwydd blaenoriaethau bilio, na fu posib’ darparu’r wybodaeth cyn y cyfarfod, ond gellid ei darparu yn gynnar ym mis Ebrill. Cadarnhaodd y Cynghorydd Selvester yr hoffai gael y wybodaeth y gofynnodd amdani ym mis Ebrill.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson at ei bryderon am gwtogi nifer y diwrnodau y byddai Swyddfa Sir y Fflint yn Cysylltu ym Mwcle ar agor. Eglurodd yr Hwylusydd fod ymateb i’w bryder wedi’i ddarparu i’r Pwyllgor dros e-bost cyn y cyfarfod.
Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Chwefror 2023 eu cymeradwyo fel cofnod cywir, a’u cynnig a’u heilio gan y Cynghorydd Dennis Hutchinson a’r Cynghorydd Dale Selvester.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Chwefror a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi fel cofnod cywir.
Dyddiad cyhoeddi: 26/05/2023
Dyddiad y penderfyniad: 08/03/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 08/03/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai
Accompanying Documents: