Manylion y penderfyniad

Open Spaces and Highway Memorial Policy

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To agree a new policy to deal with memorials and legacy requests within greenspaces and the countryside.

Penderfyniadau:

            Wrth gyflwyno’r adroddiad, eglurodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) nad oedd yna bolisi ar hyn o bryd ar gyfer cofebion a osodir ar y rhwydwaith priffyrdd neu ar dir y cyngor.  Teimlai fod y polisi hwn yn taro’r cydbwysedd cywir rhwng y gost gychwynnol, y gwaith cynnal a chadw hirdymor ac ystyriaeth o’r lleoliad, gan fod hwn yn fater sensitif.

 

            Adroddodd Rheolwr y Gwasanaeth (Mynediad i Gefn Gwlad a’r Amgylchedd Naturiol) bod ceisiadau wedi dod i law gan aelodau’r cyhoedd am gael gosod mainc goffa neu blannu coeden er cof am anwyliaid o fewn safleoedd cefn gwlad a mannau agored.  Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae’r ceisiadau hyn wedi cynyddu’n sylweddol ac wedi arwain at bryderon na ddylid troi mannau agored yn erddi coffa.  Roedd hwn yn fater sensitif ac roedd rhaid i’r cyngor fod yn ystyriol o deuluoedd a’u hamgylchiadau.

 

            Diben y polisi hwn oedd cydweithio â theuluoedd mewn ffordd sensitif ac ystyried pob dewis o ran cofebion yn ychwanegol at feinciau, fel plannu coeden neu ddarn o wrych, gosod camfeydd neu gyfrannu giatiau, a oedd hefyd yn cael eu hystyried mewn parciau gwledig.   Gan gyfeirio at gofebion ar briffyrdd, dywedodd Rheolwr y Gwasanaeth (Mynediad i Gefn Gwlad a’r Amgylchedd Naturiol) fod y rhain ychydig yn wahanol, gan fod angen ystyried diogelwch o ran tynnu sylw gyrwyr.  Byddai’r polisi hwn yn gadael i swyddogion siarad â’r teuluoedd i sicrhau y gellid cyrraedd canlyniad cadarnhaol.   Roedd yna broblemau hefyd o ran cyllid yr oedd rhaid eu hystyried, gan gynnwys y pryniant cychwynnol, y gwaith cynnal a chadw ac adnewyddu’r eitem, y dylai’r ymgeisydd fod yn gyfrifol amdanyn nhw.   Yna, adroddodd am y sensitifrwydd angenrheidiol pan fyddai teuluoedd yn cyfarfod i ryddhau balwnau, a oedd yn broblem gan eu bod yn rhyddhau plastig a sbwriel yng nghefn gwlad.  Byddai’n rhaid cynnal trafodaethau gyda’r teuluoedd i ddod o hyd i ffyrdd amgen iddyn nhw nodi marwolaeth aelodau'r teulu.

           

            Mewn ymateb i gwestiynau am blannu coed coffa a rhyddhau balwnau gan y Cynghorydd Dan Rose, cadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaeth (Mynediad i Gefn Gwlad a’r Amgylchedd Naturiol) y câi teuluoedd blannu coed.  Roedd yna beryglon ynghlwm â hyn y byddai'n rhaid eu trafod gyda’r teulu, fel coed yn marw mewn cyfnodau o sychder neu’n dioddef fandaliaeth a’r gwaith o’u cynnal a’u cadw.  Nid oedd o blaid gosod placiau, ond gellid defnyddio llyfr coffa yn y canolfannau ymwelwyr neu ar lein i gofnodi hyn.  Gan gyfeirio at ryddhau balwnau, dywedodd ei bod yn anodd i’w swyddogion fynd at deulu mewn galar i ofyn iddyn nhw beidio â rhyddhau balwnau.  Hysbysebu a darparu gwybodaeth am risgiau gwneud hyn oedd y ffordd ymlaen.


            Gofynnodd y Cynghorydd Dan Rose a fyddai placiau bioddiraddadwy yn cael eu hystyried fel mesur tymor byr, a chadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaeth
(Mynediad i Gefn Gwlad a’r Amgylchedd Naturiol) y byddai’n fodlon ystyried hyn.

 

            Awgrymodd y Cynghorydd Roy Wakelam y dylid annog teuluoedd i adael blodau heb eu lapio, wedi’u clymu gyda llinyn.  Mewn ymateb, dywedodd Rheolwr y Gwasanaeth (Mynediad i Gefn Gwlad a’r Amgylchedd Naturiol) bod rhaid cael gwared â blodau sy’n pydru hefyd, ac efallai y byddai’n fwy priodol awgrymu y gallai pobl adael blodau heb eu lapio ond bod rhaid cael gwared â nhw cyn pen pythefnos.  Teimlai’r swyddogion yn amharod i gael gwared â rhywbeth a oedd wedi cael ei adael er cof am rywun, ond byddai’r polisi hwn yn eu galluogi i gael gwared â blodau wedi pydru.

 

            Ceisiodd y Cynghorydd Mike Peers eglurhad am y pwynt am adael rhoddion mewn ewyllys ar dudalen 109, adrannau 1.10 ac 1.13, gan awgrymu ystyried y geiriad canlynol:- “gallwch adael rhodd i Gyngor Sir y Fflint neu’r Gwasanaethau Cefn Gwlad ar ôl i’ch cyfarwyddiadau gael eu trafod a’u cytuno gan y ddwy ochr”.  Roedd Rheolwr y Gwasanaeth (Mynediad i Gefn Gwlad a’r Amgylchedd Naturiol) yn fodlon cynnwys y geiriad ychwanegol hwn.

 

Cafodd argymhellion yr adroddiad eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Roy Wakelam a Mared Eastwood.

 

PENDERFYNWYD:

Y byddai’r pwyllgor yn cymeradwyo’r polisi yn amodol ar y diwygiad a awgrymwyd gan y Cynghorydd Mike Peers.

 

Awdur yr adroddiad: Tom Woodall

Dyddiad cyhoeddi: 29/03/2023

Dyddiad y penderfyniad: 07/02/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 07/02/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi

Accompanying Documents: