Manylion y penderfyniad

Wepre Park Management plan and charging

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To present and agree the new Wepre Park management plan.

Penderfyniadau:

            Wrth gyflwyno’r adroddiad, eglurodd Rheolwr y Gwasanaeth (Mynediad i Gefn Gwlad a’r Amgylchedd Naturiol) mai Cynllun Rheoli Parc Gwepra oedd eu dogfen weithredol graidd ar gyfer arwain y gwaith, y camau datblygu a’r datblygiad dros dymor o 5 mlynedd.   Darparodd wybodaeth am y newidiadau yn y fformat ers cynllun 2016/2021, gan amlinellu sut y byddai’r cynllun newydd yn cael ei strwythuro.  Yna cafwyd gwybodaeth gan Reolwr y Gwasanaeth (Mynediad i Gefn Gwlad a’r Amgylchedd Naturiol) am yr amserlen cynnal a chadw barhaus a’r rhaglen ar gyfer y parc wrth symud ymlaen.  Cafwyd gwybodaeth yn Atodiad 3 am yr ymgynghoriad cyhoeddus helaeth a gynhaliwyd y llynedd, a throsolwg o’r cynnydd mewn niferoedd ymwelwyr.  Cafwyd amlinelliad o feysydd penodol o fewn y Cynllun Rheoli ar gyfer y parc a oedd yn sicrhau bod ardaloedd cadwraeth sensitif yn cael eu hamddiffyn ond hefyd yn croesawu ymwelwyr.  Yna cyfeiriodd at Atodiad 2 a oedd yn cynnwys camau gweithredu ar gyfer rhedeg busnes y parc o ddydd i ddydd, a chyflwynodd wybodaeth am adnoddau a chyllid allanol, y Ceidwad a’r tîm amgylchedd naturiol a’r gwirfoddolwyr sy’n cefnogi’r parc.

 

            Mewn ymateb i gwestiynau am gyllid gan y Cynghorydd Mike Peers, eglurodd Rheolwr y Gwasanaeth bod y cyllid craidd sydd wedi’i gynnwys yn y gyllideb sylfaenol wedi’i nodi ar gyfer y staff ac i alluogi'r parc i weithredu o ddydd i ddydd gyda chymorth y gwirfoddolwyr.  Gellid gwneud rhywfaint o’r gwaith a amlygwyd yn y camau gweithredu yn Atodiad 2 o fewn y gyllideb honno.   O ran gofynion cyllid ychwanegol ar gyfer prosiectau, cadarnhaodd y byddai’r rhain yn cael eu canfod o ffrydiau cyllido allanol a oedd yn anodd eu rhagweld.  Roedd yn hanfodol rhoi’r hyder hwnnw i’r cyllidwyr eu bod yn prynu i mewn i rywbeth a oedd yn gydnabyddedig, a oedd wedi bod drwy ymgynghoriad ac a oedd wedi’i gynnwys yn y Cynllun ar gyfer y parc.

 

            Yn dilyn cais am y wybodaeth ddiweddaraf am yr arbrawf ynni d?r yn Nant Gwepra gan yr Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi, eglurodd Rheolwr y Gwasanaeth (Mynediad i Gefn Gwlad a’r Amgylchedd Naturiol) y codwyd argae yn Nant Gwepra yn y 1800au er mwyn cyflenwi trydan i Blas Gwepra.  Cafwyd trafodaethau am gynllun blaenorol a gafodd ei roi o’r neilltu ac yna adroddodd ar gais gan Goleg Prifysgol Llundain (UCL), a oedd wedi datblygu offer newydd yr oedden nhw eisiau ei brofi.  Gosodwyd yr offer dros dro yn ystod hydref y llynedd ac roedd UCL yn falch ei fod wedi gweithio’n dda ac wedi ymestyn eu hymchwil ymhellach.  Ar ôl cael y ffigurau am lif y d?r ac effeithlonrwydd y tyrbin, byddai’n bosib cadarnhau costau ar gyfer gosod y tyrbin newydd.  Byddai hyn yn gydnaws â’r parc ac yn cysylltu â’r ganolfan ymwelwyr ac yn cynhyrchu ad-daliad am y trydan a gynhyrchwyd.  Roedd disgwyl y byddai’r ffigurau’n dod i law o fewn yr ychydig wythnosau nesaf ac yna gellid penderfynu a ddylid symud ymlaen â hyn ai peidio.

           

Cafodd argymhellion yr adroddiad eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr  Ian Hodge a Richard Lloyd.

 

PENDERFYNWYD:

Y byddai’r Aelodau’n cymeradwyo’r cynllun rheoli 5 mlynedd newydd ar gyfer Parc Gwepra.

Awdur yr adroddiad: Tom Woodall

Dyddiad cyhoeddi: 29/03/2023

Dyddiad y penderfyniad: 07/02/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 07/02/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi

Accompanying Documents: