Manylion y penderfyniad

Woodland Strategy (Urban Tree & Woodland Plan and Flintshire Forest)

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To provide an update on delivering the Urban Tree and Woodland Plan and to seek members views on developing a Flintshire Forest

Penderfyniadau:

            Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) yr adroddiad, gan gadarnhau y mabwysiadwyd y Strategaeth Coed a Choetiroedd yn 2018 i helpu plannu coed a chynyddu’r brigdwf coed.    Aeth Rheolwr y Gwasanaeth (Mynediad i Gefn Gwlad a’r Amgylchedd Naturiol) ymlaen i ddweud y sefydlwyd y Strategaeth Coed a Choetiroedd i gynyddu'r brigdwf coed ac i sicrhau bod coed yn cael eu rheoli’n gynaliadwy, gan amlygu’r manteision y mae coed yn eu cynnig i drigolion Sir y Fflint.  Amlinellodd y targedau a osodwyd ar gyfer cynyddu’r brigdwf coed o 14.5% i 18% erbyn 2033.  Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n cynnal yr asesiad o’r brigdwf coed, ond nid yw hyn wedi cael ei adolygu ers 2018, felly nid oedd y wybodaeth ddiweddaraf ar gael ar hyn o bryd.

 

            Adroddodd Rheolwr y Gwasanaeth (Mynediad i Gefn Gwlad a’r Amgylchedd Naturiol) fod coed wedi cael eu plannu yn y blynyddoedd diweddar ar safleoedd a nodwyd yn y sir, gan ddefnyddio cyllid Grant Gwella Coetiroedd Llywodraeth Cymru a’r Grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.  Amlinellodd sut y cynyddwyd y brigdwf coed gyda chynlluniau coed wedi’u cynllunio’n dda, gan sicrhau ôl ofal a chynnwys cymunedau lleol i wneud yn si?r bod y coed yn goroesi.  Amlinellodd Rheolwr y Gwasanaeth (Mynediad i Gefn Gwlad a’r Amgylchedd Naturiol) y broses a ddilynwyd i sicrhau bod y prosiectau plannu hyn yn llwyddiannus.  Cafodd dros 23,000 o goed eu plannu dros y 4 blynedd diwethaf, a chanmolodd Rheolwr y Gwasanaeth (Mynediad i Gefn Gwlad a’r Amgylchedd Naturiol) ei dîm am eu gwaith caled a wnaeth hyn yn bosib.   Roedd ymgysylltu â chymunedau’n allweddol i hyn, a darparodd fap stori o brosiectau plannu coed ledled y sir a oedd yn amlygu’r gwaith a wnaed.

 

            Yna, cafwyd gwybodaeth gan Reolwr y Gwasanaeth (Mynediad i Gefn Gwlad a’r Amgylchedd Naturiol) am ddatblygiad arfaethedig Coedwig Sir y Fflint.  Awgrymwyd y gallai Coedwig Sir y Fflint adlewyrchu cyfeiriad Coedwig Genedlaethol Llywodraeth Cymru.  Amlinellodd yr amcanion ar gyfer creu ardaloedd o goetir newydd, mannau hamdden a natur, casglu a storio carbon, yn ogystal â darparu pren.  Byddai angen cydweddu amcanion allweddol y Strategaeth Coed a Choetiroedd Trefol a Choedwig Sir y Fflint.  Cyfeiriodd yr aelodau at y fframwaith ym mhwynt 1.11 yr adroddiad, gan gynnig trosolwg o’r elfennau allweddol, y weledigaeth a’r ymgysylltiad â’r cyhoedd.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Roy Wakelam am ddiogelu coed h?n presennol, amlinellodd Rheolwr y Gwasanaeth (Mynediad i Gefn Gwlad a’r Amgylchedd Naturiol) fecanweithiau fel Gorchmynion Diogelu Coed ac amodau cynllunio.  Cyfeiriodd at ymgynghoriadau cyhoeddus a gynhaliwyd cyn cychwyn ar brosiectau plannu a’r ychydig o wrthwynebiad a gafwyd i blannu coed, gan ddweud bod ymgysylltu â’r cyhoedd i dynnu sylw at fanteision coed, yn ogystal â sicrhau bod y coed cywir yn cael eu plannu, yn allweddol i’w diogelwch parhaus.  Byddai hybu plannu coed da, gan blannu’r coed cywir mewn datblygiadau newydd, yn sicrhau gwell canlyniadau.   Gan gyfeirio at golli coed, cadarnhaodd y collwyd tua 1,000 o goed o ganlyniad i glefyd coed ynn dros y gaeaf ar briffyrdd, ond bod mwy o goed yn cael eu plannu yn lle’r rhain.  Roedd y gwaith hwn yn hanfodol.

 

            Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Dan Rose, ymatebodd Rheolwr y Gwasanaeth (Mynediad i Gefn Gwlad a’r Amgylchedd Naturiol) yn gyntaf i lwyddiant y pwynt am blannu 23,000 o goed, gan ddweud bod yna 20% o fethiant yn fras ar gyfer coed chwip bychain, a bod y gofal mwyaf posib yn cael ei gymryd i sicrhau bod y coed safonol mwy yn goroesi.  Yn ystod sychder y llynedd, gyda 5,000 o goed wedi’u plannu ym Mharc Gwepra, ni fu’n bosib sicrhau bod yr holl goed yn goroesi.  Eleni, roedd coed newydd yn cael eu plannu yn lle’r coed chwip a gollwyd.

 

            Mewn ymateb i’r pwynt am y tomwellt o’r coed a dorrwyd i lawr, cadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaeth (Mynediad i Gefn Gwlad a’r Amgylchedd Naturiol) fod hwn eisoes yn cael ei ddefnyddio i gadw gwlybaniaeth yn y tir ac i atal chwyn rhag tyfu ar goed safonol a gwrychoedd.   Cadarnhaodd hefyd bod gwaith wedi’i wneud ar ddal a storio carbon ar safleoedd ledled y sir er mwyn sicrhau nad oedd plannu coed yn amharu nag yn tarfu ar unrhyw amgylchedd sefydledig.

 

            Mewn ymateb i’r pwynt am gofnodion, cadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaeth (Mynediad i Gefn Gwlad a’r Amgylchedd Naturiol) y cedwir cofnodion o’r rhywogaethau a’r perllannau a blannwyd, gan roi gwybodaeth am y dyddiau coed a’r sesiynau sudd afal a gynhelir yn defnyddio ffrwythau o goed ffrwythau treftadaeth.

 

            Mewn ymateb i’r cwestiwn am amddiffyn ardaloedd plannu newydd, dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) fod yr ardaloedd a oedd yn cael eu hadolygu ar dir Sir y Fflint ac y bydden nhw fel tirfeddianwyr yn eu hamddiffyn.  Os bydd datblygiad y digwydd ger tir y cyngor, byddai asesiadau’n cael eu cynnal i sicrhau na fyddai yna unrhyw effaith ar y coed.

 

            Cyfeiriodd y Cadeirydd at y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl), gan holi a oedd yna ffordd o fynnu bod Datblygwyr yn cynnwys mwy o goed sefydledig yn eu cynlluniau.  Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) na fyddai hyn yn briodol ar gyfer pob safle, ond y dylai'r Tîm Rheoli Datblygiadau ystyried hyn wrth asesu effeithiau posib ar y safle.

 

            Wrth ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Mike Peers, cyfeiriodd Rheolwr y Gwasanaeth (Mynediad i Gefn Gwlad a’r Amgylchedd Naturiol) yn gyntaf at y cwestiwn am y goedwig.  Cadarnhaodd yr ymgysylltwyd â’r cyhoedd mewn mannau a oedd yn cael eu hystyried ar gyfer plannu coed.  Byddai pob cais i blannu coed er mwyn cynyddu’r brigdwf coed yn cynnwys arolwg o gyflwr y tir, gosodiadau a choed presennol cyn penderfynu pa fath o goed i’w plannu.  Er enghraifft, ni fyddai coed gyda drain neu aeron gwenwynig yn cael eu hystyried ar gyfer tir ysgolion. 

 

            Wrth ymateb i’r cwestiwn am y coridor gwyrdd gan yr Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi, eglurodd Rheolwr y Gwasanaeth (Mynediad i Gefn Gwlad a’r Amgylchedd Naturiol) na fyddai coed na choetiroedd yn cael eu plannu ar eu pennau eu hunain.   Roedd yna gyfyngiadau mewn perthynas â’r tir a oedd ar gael a’i gysylltedd â’r amgylchedd ehangach, ond roedd y tirfeddianwyr yn cael eu cynnwys yn y broses hon.

 

            Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Dan Rose, amlinellodd Rheolwr y Gwasanaeth (Mynediad i Gefn Gwlad a’r Amgylchedd Naturiol) y gwaith a wnaed ar y cyd dros sawl blwyddyn gyda’r partneriaid o fewn y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.  Roedd hyn wedi ei gwneud yn bosib mapio asedau gwyrdd o fewn y sir gyda sawl prosiect bychan llwyddiannus.  Roedd y sefyllfa mewn perthynas â’r tirfeddianwyr yn wahanol o ran cyllid, ond roedd yna ddewisiadau.   

 

Cafodd argymhellion yr adroddiad eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Mike Peers ac Ian Hodge. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)      Y byddai'r Aelodau’n nodi cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf ac yn cefnogi swyddogion yn eu gwaith rheoli coed a choetiroedd parhaus.

(b)      Y byddai’r Aelodau’n cefnogi cynlluniau i ddatblygu Coedwig Sir y Fflint yn unol â’r manylion fframwaith a ddarparwyd.

Awdur yr adroddiad: Tom Woodall

Dyddiad cyhoeddi: 29/03/2023

Dyddiad y penderfyniad: 07/02/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 07/02/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi

Accompanying Documents: