Manylion y penderfyniad

Climate Change Programme Progress Report

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To provide an update on progress within the climate change programme.

Penderfyniadau:

Cadarnhaodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) y byddai’r adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet yr wythnos nesaf ac y byddai unrhyw sylwadau gan y pwyllgor hwn yn cael eu croesawu.  Roedd yr adroddiad hwn wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu ac i’r Pwyllgor Newid Hinsawdd.

 

            Dechreuodd Rheolwr y Rhaglen (Newid Hinsawdd a Lleihau Carbon) drwy ddweud bod y Strategaeth Newid Hinsawdd wedi cael ei mabwysiadu ym mis Chwefror y llynedd a bod data Ôl Troed Carbon 2021/22 y Cyngor wedi cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.  Yna, tynnodd sylw at feysydd penodol o fewn yr adroddiad a oedd yn cynnwys targedau allyriadau ac ôl troed carbon y Cyngor.  Cafwyd gwybodaeth am y themâu o fewn y cynllun, yn ogystal â’r wybodaeth ddiweddaraf am dargedau a gyflawnwyd o ran adeiladau, symudedd, cludiant a chaffael.  

 

            Gan symud ymlaen at Flaenoriaethau 2023/24, amlinellodd Rheolwr y  Rhaglen (Newid Hinsawdd a Lleihau Carbon) y gwelliannau yn y fethodoleg casglu data, yn enwedig o amgylch caffael, gan adrodd ar y gwaith a oedd yn mynd rhagddo gyda’r swyddogion comisiynu a’r cyflenwyr.  Cafwyd trosolwg o’r wybodaeth am y blaenoriaethau ar gyfer milltiroedd busnes, cofnodi cerbydau gweithwyr, teithio i’r gwaith a gweithio gartref a’r broses dendro wrth weithio gyda chyflenwyr.  Yna, cyflwynodd wybodaeth am hyfforddiant llythrennedd carbon, gosod llinell sylfaen ar gyfer adeiladu a stoc tir a gwelliannau i drydaneiddio cerbydau fflyd, ynghyd ag ysgol di-garbon net a’r nod o gael cartref gofal di-garbon net a chynllun ynni ardal leol.

 

            Cadarnhaodd Rheolwr y Rhaglen (Newid Hinsawdd a Lleihau Carbon), bod Cynorthwy-ydd Prosiect Newid Hinsawdd wedi cael ei benodi, yn ychwanegol ati hi, gyda Swyddog Prosiect Newid Hinsawdd yn dechrau ymhen dau fis.  Cadarnhawyd hefyd bod pwysau refeniw dan y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig i gael Cydlynydd Prosiectau Ynni i arwain ar ynni adnewyddadwy, arbed ynni a chymorth i’r isadeiledd Cerbydau Trydan.  Adroddodd hefyd ar y cydweithio â Chyngor Sir Ddinbych ar gael Swyddog Caffael Carbon a chael gafael ar gyllid ychwanegol gan LlC a’r sector preifat.

 

            Yn dilyn cwestiynau gan y Cynghorydd Mike Peers, cyfeiriodd Rheolwr y Rhaglen (Newid Hinsawdd a Lleihau Carbon) yn gyntaf at baneli solar ar ysgolion. Dywedodd fod y dewis delfrydol wedi’i ddarparu ar gyfer to pob adeilad, gan roi ystyriaeth i ganfod beth fyddai’r ad-daliad ar y buddsoddiad a’r ynni adnewyddadwy a gyflawnir i wrthbwyso’r gost.  Cytunodd i siarad â thîm arall am y pwynt refeniw a gynhyrchir ac adrodd yn ôl.

 

            Gan gyfeirio at y pwynt am ostyngiadau mewn costau gwresogi o adeiladau neu oleuadau stryd, cadarnhaodd y cyflawnwyd y rhain drwy waith uwchraddio dan y rhaglen Buddsoddi i Arbed, gyda’r ffigurau hyn yn cael eu cymharu â gwybodaeth sylfaenol 2018.

 

            Mewn perthynas â’r cyfleoedd i ddatgarboneiddio adeiladau, cadarnhaodd Rheolwr y Rhaglen (Newid Hinsawdd a Lleihau Carbon) bod hyn yn flaenoriaeth er mwyn dod i ddeall yn well yr hyn y gellid ei gyflawni o fewn stoc bresennol y cyngor.

 

            Mewn ymateb i inswleiddio atigau ac ystafelloedd haul, cadarnhaodd Rheolwr y Rhaglen (Newid Hinsawdd a Lleihau Carbon) y cefnogwyd y rhain drwy’r Tîm Ynni Domestig, a chytunodd i gyfeirio’r cwestiwn hwn atyn nhw.

 

            Codwyd cwestiwn gan y Cynghorydd Dan Rose am fesuriadau o ran caffael, a chadarnhaodd Rheolwr y Rhaglen (Newid Hinsawdd a Lleihau Carbon) nad oes mesuriad safonol wedi’i sefydlu ar hyn o bryd.  Roedd Llywodraeth Cymru (LlC) wrthi’n datblygu pecyn gwaith a fyddai’n ei gwneud yn haws i gynghorau gynnwys pwysoli carbon wrth dendro ac i gyflenwyr adrodd am allyriadau carbon o fewn contractau.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Richard Lloyd ar y defnydd o danau agored yn eiddo’r cyngor, nid oedd Rheolwr y Rhaglen (Newid Hinsawdd a Lleihau Carbon) yn ymwybodol o unrhyw bolisïau gan Lywodraeth Cymru, ond adroddodd am sawl ymholiad a gafwyd yngl?n ag adfer tanau agored, na fyddai’n cael eu cefnogi.  Cadarnhaodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd) bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Papur Gwyn ar Fil Aer Glân i Gymru, a fyddai mwy na thebyg yn dilyn yr hyn a oedd yn digwydd yn Lloegr.

 

            Diolchodd yr Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi i Reolwr y Rhaglen am ei gwaith, gan ddweud fod nifer o agweddau cadarnhaol o fewn yr adroddiad, ond bod caffael yn broblem go iawn.  Teimlai y byddai pecyn gwaith LlC, pan fydd ar gael, yn fuddiol iawn i gontractwyr mawr ac i’r Cyngor.  Dywedodd ei bod yn annheg bod hyn yn cael ei gysylltu â gwerth y nwyddau a gyflenwyd yn hytrach na nifer y milltiroedd a deithiwyd ac, ar ôl cynnwys chwyddiant, nad oedd unrhyw awdurdod yn elwa ar y sefyllfa.

 

Cafodd argymhellion yr adroddiad eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Mared Eastwood a Roy Wakelam.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)      Derbyn yr adroddiad a nodi ei gynnwys.

(b)      Cefnogi gwelliannau i gyfathrebu mewnol er mwyn codi ymwybyddiaeth o gynnydd cadarnhaol y Cyngor wrth symud ymlaen tuag at gyflawni ei uchelgeisiau newid hinsawdd.

(c)       Cefnogi’r gwaith o gychwyn ymwreiddio mesurau carbon i mewn i brosesau caffael o fewn portffolio peilot y Cyngor.

(d)      Cefnogi’r achos dros swydd ac adnoddau Buddsoddi i Arbed er mwyn cyflwyno Systemau Rheoli Adeiladau o fewn mwy o’n hadeiladau, i wella’r broses o reoli’r defnydd o ynni.

(e)      Cefnogi’r gwaith o ymwreiddio egwyddorion newid hinsawdd drwy’r Cyngor cyfan, drwy gyflwyno hyfforddiant Llythrennedd Carbon i Aelodau Etholedig, Uwch Reolwyr a swyddogion eraill sy’n gwneud penderfyniadau allweddol

Awdur yr adroddiad: Alex Ellis

Dyddiad cyhoeddi: 29/03/2023

Dyddiad y penderfyniad: 07/02/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 07/02/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi

Accompanying Documents: