Manylion y penderfyniad

Forward Work Programme and Action Tracking

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To consider the Forward Work Programme of the Environment & Economy Overview & Scrutiny Committee and to inform the Committee of progress against actions from previous meetings.

Penderfyniadau:

            Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol a’r adroddiad Olrhain Camau Gweithredu.  Tynnodd sylw at yr eitemau a oedd wedi’u cynnwys i’w trafod yng nghyfarfod mis Chwefror, sef y Strategaeth Coetir, y wybodaeth ddiweddaraf am Newid Hinsawdd, Cynllun Rheoli Adnoddau D?r drafft D?r Cymru 2024 (Ymgynghoriad Cyhoeddus), a Chynllun Rheoli Parc Gwepra.  Yna, cyfeiriodd at yr eitem Cymunedau am Waith a oedd wedi cael ei thynnu’n ôl a gwahoddodd y Prif Swyddog i ddarparu gwybodaeth am hyn.

 

            Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) fod yr eitem hon wedi cael ei chynnwys yn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol oherwydd pryderon yngl?n â chyllid Llywodraeth Cymru.  Roedd yn falch iawn o gyhoeddi bod cyllid wedi cael ei sicrhau ar gyfer y flwyddyn nesaf a dyna pam bod yr eitem yn cael ei thynnu   Dywedodd y byddai adroddiad yn cael ei ddarparu o fewn y flwyddyn nesaf yn amlinellu’r gwaith a wnaed gan raglen gyflogadwyedd Cymunedau am Waith.

 

            Cadarnhaodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu fod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant wedi trefnu cyfarfod ar gyfer 2 Chwefror a fyddai’n cynnwys eitem ar y cyd ar Barcio Cerbydau Tu Allan i Ysgolion a Gorfodi. Byddai Aelodau o’r Pwyllgor hwn yn cael eu gwahodd i’r cyfarfod hwnnw ar gyfer yr eitem.   Yna fe eglurodd bod y Polisi Profedigaeth yng Nghefn Gwlad yn awr wedi’i drefnu ar gyfer cyfarfod mis Chwefror. 

 

            Cyfeiriodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu at weithdy a oedd yn cael ei gynnal ar 24 Ionawr ar “Reoli Mannau Agored, Torri Gwair a Natur”.  Roedd yna hefyd y Meini Prawf Eithriadau ar gyfer gweithredu terfyn cyflymder 20mya ym mis Chwefror a’r Cynnydd o ran newid Fflyd CSFf i drydan neu danwyddau amgen ym mis Hydref.

 

Cyfeiriodd yr Hwylusydd at yr adroddiad Olrhain Camau Gweithredu a gwahoddodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd) i gyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf am yr adolygiad o’r rhwydwaith gan Drafnidiaeth Cymru.  Eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd) fod Llywodraeth Cymru yn adolygu’r ddeddfwriaeth fysiau yng Nghymru a oedd wedi cael ei chyflwyno i’r Pwyllgor a dywedodd fod adolygiad o’r rhwydwaith yn rhan o hyn.  Roedd yn dal i fod yn aneglur pryd fyddai hyn yn cael ei weithredu ac y byddai hyn yn aros yn yr adroddiad Olrhain Camau Gweithredu nes y cynhaliwyd yr adolygiad.  Awgrymwyd y dylid cael gwared ar hyn am r?an nes yr oedd mwy o wybodaeth ar gael a chytunodd y Pwyllgor â hynny.

 

Yna, cyfeiriodd yr Hwylusydd at Farchnadoedd Canol Tref a dywedodd y byddai Niall Waller yn anfon papur briffio i aelodau’r Pwyllgor yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw.  Wrth gyfeirio at sbwriel o lefydd gwerthu bwyd, eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd) fod hyn yn gyfarwyddyd LlC ac awgrymodd y dylid anfon llythyr gan y Pwyllgor hwn yn amlygu’r problemau sy’n cael eu profi.   Cytunodd y Cadeirydd ac Aelodau’r Pwyllgor y dylai’r Prif Swyddog ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

 

Yna, cyfeiriodd yr hwylusydd at y gweithdy ar roi terfyn cyflymder 20mya mewn grym, a fyddai yn awr yn cael ei gynnal ym mis Mawrth.

 

PENDERFYNWYD:

(a)     Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

(b)     Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor yn derbyn awdurdod i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

(c)     Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.

 

Awdur yr adroddiad: Margaret Parry-Jones

Dyddiad cyhoeddi: 28/03/2023

Dyddiad y penderfyniad: 10/01/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 10/01/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi

Accompanying Documents: