Manylion y penderfyniad

Revenue Budget Monitoring 2022/23 (Month 10)

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To provide Members with the Revenue Budget Monitoring 2022/23 (Month 10) Report and Significant Variances.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Rheolwyr Cyllid Corfforaethol sefyllfa  monitro cyllideb refeniw 2022/23 ym mis 10 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai a’r Rhaglen Gyfalaf, cyn i’r Cabinet ei hystyried.

 

O ran Cronfa’r Cyngor, y sefyllfa a ragwelwyd ar ddiwedd y flwyddyn - heb unrhyw gamau gweithredu newydd i leihau pwysau o ran costau ac/neu wella’r elw o gynllunio effeithlonrwydd a rheoli costau - oedd diffyg gweithredol o £0.693 miliwn (heb gynnwys effaith y dyfarniad tâl a gyflawnwyd drwy gronfeydd wrth gefn).  Byddai hyn yn gadael balans wrth gefn at raid ar ddiwedd blwyddyn o £7.024miliwn.  Roedd yna dri brif faes o orwariant o fewn Gwasanaethau Cymdeithasol., Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir a Gwasanaethau Stryd a Chludiant er bod y rhain wedi eu gosod yn erbyn tanwariant ar draws portffolio arall, gan gynnwys Cyllid Canolog a Chorfforaethol. 

 

Roedd olrhain peryglon mewn blwyddyn yn adrodd ar y sefyllfa bresennol gyda lefelau casglu Treth y Cyngor a dyfarniadau tâl, ni adroddwyd am unrhyw newidiadau sylweddol ar risgiau eraill oedd wedi eu holrhain.  Roedd diweddariad ar gronfeydd wrth gefn heb eu clustnodi yn nodi bod y balans presennol ar yr Arian Wrth Gefn Brys Covid-19 yn £3.632miliwn.   Hefyd, adroddwyd ar ôl cymeradwyo’r Cynllun Datblygu Lleol, byddai £0.127miliwn o gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd yn cael ei ryddhau i gynyddu cronfeydd wrth gefn at raid a ragwelwyd i £7.151miliwn.

 

O ran y Cyfrif Refeniw Tai, byddai gorwariant a ragwelir o £3.101 miliwn yn fwy na’r gyllideb yn ystod y flwyddyn, yn gadael balans terfynol heb ei glustnodi o £3.373 miliwn, a oedd yn uwch na’r canllawiau ar wariant a argymhellwyd.

 

Roedd y Cadeirydd yn amlygu’r costau cynyddol ar gyfer Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir ac yn gofyn i fwy o eglurhad gael ei gynnwys mewn adroddiadau yn y dyfodol i egluro symudiadau mewn cyllidebau a gymeradwywyd, er enghraifft y gostyngiad mewn Cyllid Canolog a Chorfforaethol.   Roedd hyn yn cael ei nodi gan y Rheolwr Cyllid Corfforaethol wnaeth egluro fod darpariaeth tâl yn cael ei gynnal yn ganolog cyn dosbarthu ar draws portffolios. 

 

Yn dilyn sylwadau gan y Cynghorydd Paul Johnson ar y gwaith oedd yn ymwneud â llunio’r adroddiad, roedd y Cadeirydd yn siarad am rôl ei Bwyllgor yn gweithio gyda swyddogion i herio a gwella cynnwys yr adroddiadau hyn. 

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Bill Crease a Jason Shallcross.

 

PENDERFYNWYD:

 

Ar ôl ystyried Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2022/23 (mis 10), y byddai’r Pwyllgor yn cadarnhau nad oes unrhyw faterion penodol i’w codi gyda’r Cabinet.

Awdur yr adroddiad: Dave Ledsham

Dyddiad cyhoeddi: 15/05/2023

Dyddiad y penderfyniad: 09/03/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 09/03/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Accompanying Documents: