Manylion y penderfyniad

Common Housing Register (Single Access Route to Housing - SARTH)

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To provide an update on the Common Housing Register and outcome of the customer satisfaction survey.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth Tai ac Asedau adroddiad ar yr Un Llwybr Mynediad at Dai (SARTH), sef partneriaeth rhwng yr holl brif ddarparwyr tai cymdeithasol yng Ngogledd Cymru, yn gwasanaethu ardaloedd awdurdodau lleol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Sir Ddinbych a Sir y Fflint.

 

Roedd y Cyngor yn rheoli’r gofrestr tai ar ran Partneriaid Tai Cymdeithasol Sir y Fflint (Cyngor Sir y Fflint, Tai Clwyd Alyn, Wales and West Housing, Gr?p Cynefin a Chymdeithas Tai Adra) ac roedd un Gofrestr Tai Cyffredin yn rhoi rhestr o’r holl ymgeiswyr cymwys am dai cymdeithasol.  

 

Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth Tai ac Atal fod nifer yr ymgeiswyr a dderbyniwyd ar y Gofrestr Tai Cyffredin wedi tyfu’n sylweddol dros y tair blynedd diwethaf. Roedd hyn yn rhoi pwysau cynyddol ar y baich gweinyddol a’r gwaith o reoli’r gofrestr ac roedd hefyd yn arwain at amseroedd aros hirach am y nifer cyfyngedig o dai cymdeithasol oedd ar gael bob blwyddyn. Roedd yr adroddiad yn amlinellu’r cynnydd mewn anghenion am dai a’r gwahaniaeth rhwng hynny a faint o dai cymdeithasol oedd ar gael, nad oedd yn cynyddu ar yr un gyfradd â lefelau’r anghenion am dai oedd yn amlwg yn y gymuned. 

 

Mynegodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin bryder am y diffyg tai cymdeithasol oedd ar gael a soniodd am adroddiad diweddar a gyflwynwyd i’r Pwyllgor am nifer gyfredol y tai gwag. Gofynnodd a oedd nifer y tai gwag yn Sir y Fflint yn cymharu â siroedd cyfagos.  Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Tai ac Asedau fod gan siroedd cyfagos lefelau tebyg o dai gwag ac wrth ymateb i gwestiynau pellach, dywedodd fod 259 o dai gwag yn Sir y Fflint ar hyn o bryd.

 

Soniodd y Cynghorydd Bernie Attridge am bryderon blaenorol am gwtogi oriau agor canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu a mynegodd bryder bod y penderfyniad hwn wedi’i wneud heb ystyried yr effaith ar breswylwyr sydd angen siarad â swyddogion am broblemau tai, yn enwedig y rhai nad oedd yn gallu cael gwybodaeth yn electronig.   Mynegodd bryder hefyd am y penderfyniad blaenorol i beidio â rhoi enwau tenantiaid i Aelodau pan fyddant yn symud i eiddo’r Cyngor ar eu wardiau a gofynnodd am i hyn gael ei ailystyried.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dale Selvester fod Aelodau yn cael enwau preswylwyr ar y gofrestr etholiadol, ac er bod hyn yn cael ei ddarparu dan ddeddfwriaeth wahanol, cytunodd â’r pryderon a fynegwyd gan y Cynghorydd Attridge nad oedd Aelodau lleol yn cael enwau tenantiaid. Soniodd am y lefelau bodlonrwydd gwael iawn/gwael a amlinellwyd yn yr adroddiad gan ddweud bod hyn yn bryderus a bod angen darparu mwy o wybodaeth ar y rhesymau am hyn. Roedd yn croesawu’r cyfle i ymgeiswyr ddiweddaru eu hardal ymgeisio a soniodd am fatrics blaenorol oedd yn helpu ymgeiswyr i adolygu eu hardal ymgeisio.  Soniodd hefyd am y cyfrifydd rhestr aros a mynegodd bryder nad oedd yn bosibl rhoi gwybodaeth i ymgeiswyr am ba mor hir y byddent yn aros ac nid oedd eisiau codi eu gobeithion.

 

Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth Tai ac Atal bod adborth gan y rhai oedd yn anfodlon wedi dangos nad oedd ymgeiswyr/tenantiaid yn hoffi i’r Cyngor reoli eu disgwyliadau o ran tai a chynnig datrysiadau yn ystod eu cyswllt cyntaf â’r Cyngor.   Ychydig o gwynion a gafwyd ble roeddent yn teimlo nad oedd y swyddog wedi siarad â nhw yn briodol. Roedd map rhyngweithiol ar gael ar wefan y Cyngor ar hyn o bryd i helpu ymgeiswyr pan oeddent yn penderfynu ar ardal. O ran y cyfrifydd rhestr aros, eglurwyd y gallai’r cyfrifydd roi syniad o amseroedd aros yn seiliedig ar y wybodaeth a roddwyd gan yr ymgeisydd, sef ardal, dyddiad cofrestru, nifer yr ystafelloedd gwely, mathau o eiddo.   

 

Wrth ymateb i’r pryderon a godwyd nad oedd manylion tenantiaid yn cael eu rhannu ag Aelodau erbyn hyn, eglurodd y Prif Swyddog (Tai a Chymunedau) fod deddfwriaeth benodol yn ymwneud â’r gofrestr etholiadol a rhannu gwybodaeth etholwyr ag Aelodau. O ran manylion tenantiaid, gofynnwyd am gyngor gan gydweithwyr gwybodaeth a llywodraethu a ddywedodd, yn unol â GDPR, nad oedd sail gyfreithiol i roi’r wybodaeth hon i Aelodau.

 

Cytunwyd y byddai’r Prif Swyddog yn adolygu’r cyngor cyfreithiol â chydweithwyr yn dilyn y cyfarfod ac yn rhoi ymateb i’r Pwyllgor.  

 

Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Linda Thew am daliadau i gontractwyr llai, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Asedau Tai fod gan y Cyngor bolisi oedd yn sicrhau na fyddai unrhyw gontractwr yn dioddef caledi ariannol wrth aros am daliad. 

 

Cafodd yr argymhellion, fel y’i hamlinellwyd yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd David Evans a’u heilio gan y Cynghorydd Kevin Rush.

 

PENDERFYNWYD: 

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sylweddol mewn anghenion tai ar draws y sir a’r pwysau cynyddol o ran tai cymdeithasol nad oedd yn cyd-fynd â’r cyflenwad o gartrefi oedd ar gael yn lleol; a

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r adborth gan gwsmeriaid yn dilyn yr arolwg a’r cynnydd o ran cyfleoedd i wella’r gwasanaeth ac yn benodol, trawsnewid digidol.

Awdur yr adroddiad: Lynne McAlpine

Dyddiad cyhoeddi: 20/03/2023

Dyddiad y penderfyniad: 08/02/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 08/02/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai

Accompanying Documents: