Manylion y penderfyniad

Council Plan 2022-23 Mid-Year Performance Reporting

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To review the levels of progress in the achievement of activities and performance levels identified in the Council Plan.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) yr adroddiad monitro i adolygu’r cynnydd canol blwyddyn yn erbyn blaenoriaethau Cynllun y Cyngor a nodwyd ar gyfer 2022/23.   Roedd yr adroddiad sefyllfa derfynol ar gyfer Cynllun y Cyngor 2022/23 yn dangos bod 59% o weithgareddau’n gwneud cynnydd da. Roedd 70% o’r dangosyddion perfformiad wedi cyrraedd neu ragori eu targedau, roedd 9% yn cael eu monitro’n agos ac nid oedd 21% yn cyrraedd y targed ar hyn o bryd.

 

Ar hyn o bryd roedd un gweithgaredd yn dangos statws COG coch sy’n berthnasol i’r Pwyllgor o ran uwchsgilio gweithwyr portffolio trwy gynnig dysgu proffesiynol GwE a chyfleoedd hyfforddiant priodol eraill.   Rhoddodd y Prif Swyddog wybodaeth at ei gilydd gyda manylion cylchredeg holiadur i weithwyr portffolio i ddeall pa hyfforddiant yr oeddent yn teimlo y byddai’n fuddiol iddyn nhw.   Roedd yr holiaduron wedi’u dychwelyd ac roeddent yn cael eu coladu ar hyn o bryd er mwyn galluogi cynllun gweithredu i fynd i’r afael â’r meysydd o angen datblygiadol ar gyfer y portffolio a byddai hwn ar waith erbyn mis Ebrill 2023.  

 

Croesawodd y Cadeirydd bod Cynllun y Cyngor ar gyfer 2023 yn cael ei fonitro’n gyson a bod ei gynnydd yn cael ei adolygu a’i fesur yn erbyn y meini prawf ar gyfer llwyddiant y camau gweithredu oddi fewn iddo.   Bu iddi ddiolch i staff y portffolio addysg am yr adroddiad addysg a sgiliau cadarnhaol gyda’r data yn tynnu sylw at y sgorau COG oedd yn disgyn rhwng oren, lle’r oedd y camau gweithredu yn cael eu datblygu neu wyrdd, lle’r oedd y camau gweithredu yn gyflawn neu ar y trywydd iawn. 

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Dave Mackie o ran dysgu digidol a Gwasanaethau Ieuenctid Integredig, eglurodd y Prif Swyddog bod yr Ymgynghorydd Dysgu Cynradd wedi darparu cymorth ardderchog i ysgolion gydag adolygiadau rheolaidd yn cael eu cynnal ar yr offer, meddalwedd a chaledwedd sydd ar gael i alluogi gwelliannau yn y strwythur digidol.   Roedd gwaith hefyd yn parhau i sicrhau bod ysgolion yn gallu cael mynediad at y cyllid helaeth a ddarperir i Lywodraeth Cymru (LlC) ar gyfer hyn a gafodd ei adrodd i gyfarfodydd Bwrdd Digidol Hwb.   Amlinellodd yr Uwch Reolwr, Systemau Gwella Ysgolion, y gwaith a wnaed ar draws Cymru o ran cyflwyno’r rhaglen Hwb gyda’r Ymgynghorydd Dysgu Cynradd yn ymgymryd ag archwiliadau rheolaidd o’r ddarpariaeth sydd ar gael i’r 24,000 o ddysgwyr ar draws yr holl ysgolion yn Sir y Fflint.   Cynhaliwyd trafodaethau gydag ysgolion hefyd, a oedd gyda’r cysylltiad o ddydd i ddydd hwnnw gyda rhieni, i ddeall unrhyw newid mewn amgylchiadau neu anawsterau a wynebwyd gan ddisgyblion wrth gael mynediad at yr isadeiledd digidol y tu allan i’r ysgol.   Cynhaliwyd trafodaethau parhaus gyda LlC o ran symud hwn ymlaen a chynnal buddsoddiad cenedlaethol trwy’r Rhaglen Hwb i wella’r strwythur digidol a darparu’r cwricwlwm newydd.  

 

            Cyfeiriodd y Prif Swyddog at y cynllun cyflawni ar gyfer Gwasanaethau Ieuenctid Integredig ac eglurodd bod y targedau yng Nghynllun y Cyngor wedi’u gosod cyn y flwyddyn adrodd hon ac y byddai’n cael ei newid ar gyfer 2023.  Roedd y cynllun newydd wedi’i ddatblygu a chynhaliwyd ymgynghoriad gyda phobl ifanc gyda’r Uwch Reolwr newydd yn y gwasanaeth yn ail-ymweld â’r cynllun.   Bu iddi egluro mai Covid oedd yn gyrru’r cynnig digidol ond bellach bod y gwasanaeth yn dychwelyd at normalrwydd roedd y bobl ifanc wedi gofyn iddo fod yn fwy wyneb yn wyneb.   Ni fyddai’r targed i gynnal pwyslais ar fwy o ymgysylltiad digidol yn cael ei symud ymlaen yng Nghynllun newydd y Cyngor gan fod yr amgylchiadau a’r adborth gan y bobl ifanc wedi newid a byddai’r targed a adolygwyd yn canolbwyntio’n fwy ar welliannau i’r cynnig wyneb yn wyneb.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Mackie am y wybodaeth ddiweddaraf am adeiladu’r Campws 3 i 16 ym Mynydd Isa a datblygiad y cynlluniau gweithredu mewn perthynas ag Iechyd a Lles Emosiynol.   Cadarnhaodd y Prif Swyddog eu bod wedi cyrraedd terfyn ariannol a bod contractwyr ar y safle ym Mynydd Isa.   Bu iddi hefyd egluro y byddai’r cynlluniau gweithredu Iechyd a Lles Emosiynol yn cael eu ffurfio yn nhymor yr haf gydag archwiliadau yn cael eu cwblhau erbyn diwedd mis Mawrth pan ellir nodi ffigur.

 

            Mewn ymateb i gwestiynau pellach gan y Cynghorydd Mackie o ran cyfleoedd dysgu digidol, darpariaeth amgen i bobl ifanc a thargedau’r Brifysgol Agored a gefnogwyd gan Aura, dywedodd y Prif Swyddog y byddai’n gwirio gydag Aura pam fod y niferoedd cynyddol o gyfleoedd dysgu digidol a gwblhawyd yn 0% ar hyn o bryd yn dilyn y cyfarfod ac yn darparu ymateb i’r Pwyllgor.   Bu iddi hefyd awgrymu bod swyddog o Aura yn bresennol mewn cyfarfodydd yn y dyfodol wrth ystyried yr adroddiadau monitro perfformiad i sicrhau y gellir darparu ymatebion i gwestiynau i’r Pwyllgor. 

 

            Nododd y Prif Swyddog y sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Andrew Parkhurst o ran bod y sylwadau yn amwys a dywedodd y byddai’n gofyn i Aura ddarparu gwybodaeth fwy manwl, yn enwedig yn erbyn rhai o’u targedau.   Bu iddi hefyd gytuno i edrych ar gamau gweithredu ei phortffolio i wella’r geiriad lle bo angen.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Gladys Healey ar ddarparu offer digidol i’r teuluoedd hynny mewn tlodi, cadarnhaodd y Prif Swyddog bod hyn yn digwydd.   Roedd LlC wedi darparu cyllid sylweddol i wella’r isadeiledd ar draws Cymru gydag ysgolion yn cael eu harchwilio o ran yr offer a’r gefnogaeth a ddarperir i deuluoedd.   Cafodd y teuluoedd hyn eu blaenoriaethu yn ystod y pandemig i sicrhau bod ganddynt offer a Wi-Fi i alluogi disgyblion i barhau i dderbyn eu haddysg.   Roedd yn flaenoriaeth bod cynnig teg ar gael drwy gydol eu hysgolion a bod yr holl ddisgyblion yn gallu cwblhau’r gwaith ar-lein a osodwyd iddynt.   Ychwanegodd y Prif Swyddog, Gwella Ysgolion, bod disgyblion hefyd yn gallu defnyddio’r offer a ddarperir mewn clybiau gwaith cartref ar ôl ysgol mewn llyfrgelloedd gydag ysgolion unigol yn darparu gwahanol gefnogaeth i’w dysgwyr a theuluoedd.

 

            Cafodd yr argymhellion, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, eu cynnig gan y Cynghorydd Mel Buckley a’u heilio gan y Cynghorydd Gladys Healey.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)     Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r lefelau o gynnydd a hyder o ran cyflawni’r blaenoriaethau canol blwyddyn yng Nghynllun y Cyngor 2022/23;

 

(b)     Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo a chefnogi perfformiad cyffredinol yn erbyn dangosyddion perfformiad canol blwyddyn Cynllun y Cyngor 2022/23; a

 

(c)     Bod y Pwyllgor wedi cael sicrwydd drwy’r eglurhad a roddwyd ar gyfer y meysydd hynny sy’n tangyflawni.

 

Awdur yr adroddiad: Ceri Shotton

Dyddiad cyhoeddi: 17/08/2023

Dyddiad y penderfyniad: 02/02/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 02/02/2023 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant

Accompanying Documents: